Rydym yn ymroddedig i wneud ein gwasanaeth, gan gynnwys ein gwefan, yn hygyrch i bawb.
Datganiad hygyrchedd
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn ymwneud â chynnwys a gyhoeddwyd ar www.ombudsman.wales / www.ombwdsmon.cymru
Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Fe’i cynlluniwyd i gael ei defnyddio gan gynifer o bobl â phosibl. Fe ddylai’r cynnwys fod yn glir ac yn hawdd ei ddeall.
Defnyddio’r wefan
Dylech chi allu gwneud y canlynol:
- llywio drwy’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd testun-i-leferydd
- llywio drwy’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio drwy’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- defnyddio’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- newid maint y testun
- cael mynediad at gynnwys y wefan drwy ei chwyddo hyd at 400%.
Er mwyn galluogi rhai o’r opsiynau hyn, rydyn ni wedi gosod bar offer ReachDeck, sy’n eich galluogi chi i drosi cynnwys ar-lein yn sain ar ein gwefan. Gallwch chi ddod o hyd i’r bar offer ar hyd y streipen ar frig y wefan.
Gallwch chi hefyd ddefnyddio’r opsiynau hyn drwy reolyddion eich porwr gwe. Mae gan wahanol borwyr wahanol ddulliau ar gyfer newid y gosodiadau hyn, felly bydd angen i chi fynd i’r adran ‘Help’ ar eich porwr i gael gwybod sut i wneud hyn. Os ydych chi’n anabl, mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio.
Mae ein safle wedi’i adeiladu i weithio gyda’r fersiynau diweddaraf o’r holl borwyr gwe poblogaidd, fel Microsoft Edge, Firefox, Google Chrome, Opera a Safari. Dylech chi allu gweld ein gwefan ar y ffôn neu ar ddyfais tabled.
Rydyn ni’n gweithio i wneud testun y wefan yn haws ei ddeall.
Pa mor hygyrch yw’r wefan
Nid yw rhai rhannau a nodweddion y wefan hon yn gwbl hygyrch ar hyn o bryd. Ceir rhestr yn yr adran ‘diffyg cydymffurfio’ isod. Rydyn ni hefyd yn esbonio isod sut byddwn ni’n gwneud ein gwefan yn fwy hygyrch.
Sut i ofyn am gynnwys mewn fformat hygyrch
Os oes angen gwybodaeth arnoch chi mewn fformat gwahanol, anfonwch e-bost at cyfathrebu@ombwdsmon.cymru a dywedwch wrthym ni:
- beth ydy cyfeiriad gwe (URL) y cynnwys
- eich enw a’ch cyfeiriad e-bost
- y fformat sydd ei angen arnoch chi, er enghraifft, braille, PDF hygyrch neu Hawdd ei Ddarllen (lluniau a phrint syml)
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan
Os ydych chi’n dod ar draws unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon neu os ydych chi’n meddwl nad ydyn ni’n bodloni’r gofynion hygyrchedd, anfonwch e-bost at cyfathrebu@ombwdsmon.cymru
Gweithdrefn gorfodi
Os byddwch chi’n cysylltu â ni gyda chwyn a dydych chi ddim yn fodlon gyda’n hymateb cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan
Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud ein gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Ffonau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Nid yw ein gwefan yn gwbl hygyrch ar hyn o bryd. Fe wnaeth Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth wirio’r wefan (https://www.ombudsman.wales/) ar 9 Hydref 2023 yn erbyn safon AA 2.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG). Ar sail y profion, penderfynodd fod y safle’n cydymffurfio’n rhannol â WCAG 2.1 AA. Mae hyn yn golygu nad ydy rhai pethau’n gwbl hygyrch.
Cynnwys anhygyrch
Mae’r materion hysbys yn ymwneud â’r canlynol:
- hygyrchedd rhywfaint o gynnwys y wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd a chwyddo uchel (dros 200%)
- gwelededd ffocws bysellfwrdd a rhai nodweddion llywio mewn rhai rhannau o’r wefan ar chwyddo uchel (dros 200%)
- nid yw llywio drwy’r bysellfwrdd bob amser yn adlewyrchu dilyniant llywio sy’n gyson ag ystyr cynnwys
- diffyg gallu i ddiystyru rhywfaint o gynnwys heb newid y cyfleuster hofran neu’r ffocws
- cyferbyniad lliw mewn rhai rhannau o’r wefan
- diffyg testun ALT a theitlau tudalennau mewn dogfen PDF a brofwyd.
Roedd yr archwiliad yn pwysleisio ei fod ddim ond yn canolbwyntio ar y rhwystrau mwyaf cyffredin i ddefnyddwyr ag anghenion hygyrchedd ac y gallai archwiliad llawn o’r wefan ddatgelu materion hygyrchedd eraill.
Mae gennym ni ddwy wefan ar wahân, yn Saesneg (www.ombudsman.wales) ac yn Gymraeg (www.ombwdsmon.cymru). Bydd unrhyw faterion hygyrchedd sy’n effeithio ar y Saesneg hefyd yn effeithio ar y wefan Gymraeg.
Baich anghymesur
Rydyn ni wedi cynnal asesiad baich anghymesur ar y camau posibl y gallem eu cymryd i sicrhau hygyrchedd ein gwefan bresennol. Mae hyn yn golygu nad ydyn ni’n gallu cynnig fersiynau cwbl hygyrch o’r wefan ar hyn o bryd. Mae’r asesiad yn nodi ein rhesymau, ar y sail bod cynnyrch newydd i fod i ddisodli’r wefan bresennol cyn bo hir. I weld yr asesiad llawn, cliciwch yma.
Beth rydyn ni’n ei wneud i wella hygyrchedd
Ar hyn o bryd rydyn ni’n datblygu gwefan newydd. Roedd manyleb y tendr ar gyfer y prosiect hwn yn pwysleisio bod yn rhaid i’r cynnyrch gydymffurfio’n llwyr â W3C a bod defnyddwyr agored i niwed yn gallu cael gafael arno’n rhwydd. Byddwn ni’n sicrhau bod dylunwyr ein gwefan yn ystyried y materion a’r gofynion hyn yn llawn a byddwn yn trefnu profion hygyrchedd ar gyfer y wefan newydd yn ystod y cyfnod datblygu ac ar ôl iddi gael ei lansio.
Mae’r wefan newydd ar y trywydd iawn i fod ar waith erbyn 27 Chwefror 2024.
Byddwn ni’n diweddaru’r datganiad hwn ar ôl lansio’r wefan newydd ac yn rheolaidd wedi hynny, os canfyddir unrhyw faterion pellach.
Sut y gwnaethom ni baratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 18 Hydref 2023.