Cyflogwr Chwarae Teg
Rydyn niân falch o fod yn gyflogwr cyfle cyfartal, ond rydyn ni hefyd yn ymwybodol fod rhaid i ni barhau i wella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws ein sefydliad. Isod, trafodwn ni asesiad a gynhaliwyd gan Chwarae Teg ym mis Chwefror 2020 ynglšn âân perfformiad o ran cydraddoldeb rhywiol.
 Cefndir
Yn gyson, gwelwn ni fwy o lawer o fenywod nag o ddynion ymhlith ein hymgeiswyr am swyddi – yn 2019/20, roedd 75% oân gweithlu yn fenywod. Mae gennym ni hefyd ystod o bolisĂŻau a chyfleoedd hyfforddi i ddileu rhwystrau rhag cyflogaeth neu ddatblygu gyrfaoedd staff benywaidd.
Fodd bynnag, ym mis Mawrth 2019 roedd canolrif ein Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau yn 21%, ac roedd cyfartaledd ein Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau yn 23%. Mewn cymhariaeth, 14.2% oedd canolrif y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn 2019.
Rydyn niân ymwybodol y gall canlyniadau recriwtio unigol wneud gwahaniaethau syân ymddangos yn fawr yn enwedig mewn sefydliad cymharol fach. Fodd bynnag, cawson ni ein hysgogi gan faint ein Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau i geisio barn arbenigol allanol ar ein perfformiad o ran cydraddoldeb rhywiol. O ganlyniad, penderfynom ni i ymgysylltu â Chwarae Teg a cheisio achrediad fel cyflogwr Chwarae Teg.
Elusen Gymraeg yw Chwarae Teg syân arwain ar gydraddoldeb rhywiol, gan gynnwys yn y gweithle. Mae ei gynllun Cyflogwr Chwarae Teg yn meincnodi sefydliadau gan ddefnyddio pedair lefel i fesur eu cydraddoldeb rhywiol: efydd, arian, aur a phlatinwm.

Canfyddiadau
Cynhaliodd Chwarae Teg eu hasesiad ym mis Chwefror 2020. Roedd yr asesiad yn cynnwys ystyried ein polisĂŻau a gweithdrefnau, yn ogystal ag arolwg o farn ein staff.
Ymatebodd 83% iâr arolwg, sef âlefel ymgysylltu hynod gadarnhaolâ yn Ă´l Chwarae Teg. Rydyn niân ddiolchgar iawn i bob un a gymerodd ran am eu sylwadau.
Roedd yr asesiad yn cynnwys 10 maes oân gwaith. Dyma ganlyniadauâr arolwg:

| Maes asesu | Ein sgĂ´r | SgĂ´r gyfartalog y sector cyhoeddus | Lefel cyflogwr Chwarae Teg |
| PolisĂŻau Cyflogaeth | – | – | |
| Amrywiaeth Busnes | 82% | 74% | Arian |
| Ymarferion Gweithio Hyblyg | 79% | 77% | Arian |
| Cyfathrebu Mewnol | 81% | 74% | Arian |
| Cysylltiadau Gweithio | 86% | 78% | Aur |
| Dysgu a Datblygu | 86% | 78% | Aur |
| Recriwtio a Dethol | 80% | 72% | Arian |
| Rheoli Perfformiad | 81% | 71% | Aur |
| Diwylliant y Sefydliad | 83% | 75% | Aur |
| Gwobrwyo a Chydnabod | 76% | 72% | Arian |
Yn seiliedig ar y canlyniad, rydyn niân falch o gyflawni Gwobr lefel arian fel Cyflogwr Chwarae Teg. Dim ond llond llaw o sefydliad yng Nghymru sydd wedi cyflawniâr lefel hon felly rydyn ni, wrth reswm, yn falch ohoni.
Wrth wobrwyoâr lefel hon i ni, dywedodd Chwarae Teg:
âMae hyn yn llwyddiant mawr ac yn dangos ymrwymiad y busnes i wneud gwahaniaeth i recriwtio, cadw a datblygu menywod syân gweithio, ac maeân cyfrannu at ymdrechion ehangach i gauâr blwch cyflog rhwng y rhywiau, ynghyd â sicrhau bod economi Cymru yn elwa o gydraddoldeb rhywiol.â
Beth syân digwydd nesaf?
Yn seiliedig ar ganlyniadauâr asesiad, paratĂ´dd Chwarae Teg Strategaeth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a chynllun gweithredu awgrymedig. Penderfynwyd y byddaiâr Strategaeth yn canolbwyntio ar wellaâr meysydd allweddol canlynol:
- Gweithio Hyblyg
- Recriwtio a Dethol ar y cyd ag Amrywiaeth Busnes
- Gwobrwyo a Chydnabod
Byddwn ni nawr yn gweithio â Chwarae Teg i weithreduâr cynllun gweithredu yn ystod 2020/21.
Roedden ni hefyd yn falch o weld bod canolrif ein Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau wedi gostwng i 11%, a bod cyfartaledd ein Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau wedi gostwng i 19% yn yr un cyfnod. Er bod y newidiadau hyn yn rhagflaenu cynllun gweithredu Chwarae Teg, rydyn niân hyderus y byddwn ni yn cynnal y tueddiadau cadarnhaol hyn os ydyn ni yn rhoi mwy o sylw iâr meysydd a nodir yn y cynllun.