Dangosodd meddygon ymgynghorol yn Ysbyty Glan Clwyd âddiffyg brys ofnadwyâ wrth ymdrin ag anghenion claf a oedd wedi cael diagnosis o ffurf ymosodol ar ganser y prostad. Dyna maeâr Ombwdsmon, Nick Bennett, wediâi ganfod.
Dymaâr trydydd adroddiad o ddiddordeb i’r cyhoedd a ryddhawyd gan yr Ombwdsmon mewn perthynas ââr ysbyty yn y ddau fis diwethaf.
Cafodd Mr D (cuddir ei enw) ddiagnosis o ganser yng Ngorffennaf 2014. Er bod canllawiau Llywodraeth Cymru yn dweud y dylai cleifion sydd newydd gael diagnosis o ganser ddechrau ar eu triniaeth cyn pen 31 diwrnod, buân rhaid i Mr D aros mwy na phedair gwaith yr amser sydd yn y canllawiau. Nid yn unig roedd oedi wrth gynnal ymchwiliadau diagnostig, ond roedd oedi hefyd wrth drefnu llawdriniaeth i Mr D.
Maeâr Ombwdsmon hefyd wedi beirniaduâr modd y gwnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ymdrin ââr gĹľyn ddilynol am ei ofal gan ddweud y byddai âwedi dwysau llawer ar lefel y gofid aâr pryder y byddai Mr D wedi ei brofi.â
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i nifer o argymhellion, gan gynnwys ymddiheuriad ysgrifenedig llawn ac adolygiad oâr modd y mae ei Wasanaeth Wroleg yn cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:
âYn yr achos arbennig yma, roedd yna ddiffyg brys ofnadwy yn y modd yr atgyfeiriwyd rhwng meddygon ymgynghorol ar wahanol safleoedd ysbytyâr Bwrdd Iechyd.
âYmddengys y bu methiant systematig i gydnabod ac ymateb i’r ffaith fod Mr D yn dioddef o ffurf ymosodol o ganser y prostad a allai fygwth ei fywyd ac a oedd angen triniaeth radical ar frys.
“Ni welais i ddim byd yn ymateb y Bwrdd Iechyd i fy ymchwiliad a allai gyfiawnhau methiant sydd wedi peri cymaint o bryder.
âBydd fy swyddfaân dilyn i fyny ar yr argymhellion y cytunwyd arnynt i sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu cyn gynted ac syân ymarferol bosibl.â