Cwynodd Ms B fod Cyngor Sir y Fflint (ây Cyngorâ) wedi methu â chasglu gwybodaeth briodol ac wedi methu ag ystyried a oedd angen cymorth cyfathrebu ar ei merch, A cyn i’r cyngor gyfweld â hi yn ystod ymchwiliad amddiffyn plant rhwng mis Gorffennaf a mis Awst 2019. Dywedodd hefyd nad oedd wedi ystyried ei barn hithau fel mam ac eiriolwr A yn briodol. Cwynodd Ms B hefyd fod y Cyngor wedi methu â chymryd camau priodol ynghylch atgyfeiriadau a datgeliadau dilynol aâi fod wedi methu â chydymffurfio ag argymhelliad ymchwiliad annibynnol cam 2 y Cyngor i gyfweld A eto.
Canfuâr Ombwdsmon y dylid bod wedi gwneud ymholiadau pellach cyn cyfweld A ond na chafodd hyn unrhyw effaith ar y cyfweliad na phenderfyniadauâr Cyngor. Yn ogystal, roedd y Cyngor eisoes wedi ymddiheuro am hyn ac wedi cymryd camau priodol i wella ymarfer yn y dyfodol. Canfu fod gan y Cyngor hawl i ddibynnu ar yr wybodaeth a dderbyniodd am anghenion cyfathrebu A, a awgrymodd y byddaiân gallu cymryd rhan yn y cyfweliad heb gefnogaeth ychwanegol. Fel y digwyddodd, roedd A yn fodlon ac yn gallu trafod ei phryderon yn y cyfweliad. Canfu hefyd fod Ms B wedi cael yr wybodaeth ddiweddaraf drwy gydol yr ymchwiliad ac wedi cael cyfleoedd priodol i gynnig unrhyw wybodaeth yr oedd am ei hystyried. Wrth ystyried y modd y deliodd y Cyngor â’r cwynion, canfu ei bod yn briodol iâr Cyngor ystyried drostoâi hun a ddylid cydymffurfio ââr argymhelliad oâr ymchwiliad iâr gĹľyn yng ngham 2 aâi bod yn rhesymol iddo benderfynu peidio â chyfweld A eto ar yr adeg y gwnaed y penderfyniad hwnnw. Nid oedd yr Ombwdsmon yn cadarnhauâr cwynion hyn.
Canfuâr Ombwdsmon fod yr atgyfeiriadau dilynol a dderbyniwyd yn eithaf tebyg iâr materion a ystyriwyd eisoes ac nad oedd angen ymchwilio ymhellach iddynt.
Fodd bynnag, gwnaeth A ddatgeliadau ychwanegol ym mis Ionawr 2020 a ddylai fod wedi cael eu hystyried yn ffurfiol gan y Cyngor a, phan na wnaeth hynny, cafodd ei ystyried yn y pen draw gan yr heddlu. O ran datgeliadau A, cafodd yr elfen hon oâr gĹľyn ei chadarnhau. Nododd yr Ombwdsmon hefyd fod diffygion yn y modd y maeâr Cyngor yn cadw cofnodion. Cytunodd y Cyngor, o fewn 1 mis, i ymddiheuro i Mrs B am edrych dros yr wybodaeth a dderbyniodd ym mis Ionawr 2020 ac i atgoffaâr holl staff perthnasol o bwysigrwydd arferion cadw cofnodion da.