Cwynodd Ms Y ar ran ei diweddar bartner, Mr X, am y gofal aâr driniaeth a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd aâr Fro. Yn benodol, cwynodd Ms Y nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi penderfynu beth oedd achos trawiadau Mr X mewn modd rhesymol ac amserol, ei fod wedi rhagnodi a rhoi meddyginiaeth iddoân afresymol, bod y cyfathrebu â Mr X aâi deulu yn wael, ac na chafodd unrhyw asesiad o alluedd ei gwblhau gyda Mr X.
Canfuâr ymchwiliad fod oedi sylweddol o ran rhoi gwybod am ganlyniadau sgan MRI cyntaf Mr X, a gafodd ei gymhlethu ymhellach gan oedi oherwydd na weithredodd neb ar ganlyniadauâr sgan hwnnw, gan arwain at aros am 12 wythnos. Wedi hynny, gofynnwyd am ail sgan âbrysâ, ond bu oedi o bythefnos cyn iâr cais gael ei gofnodi hyd yn oed ar y system geisiadau, gan arwain at aros am 8 wythnos. Roedd hyn yn annerbyniol ac yn gyfystyr â methiant yn y gwasanaeth, yn ogystal ââr ansicrwydd a achosodd anghyfiawnder sylweddol i Mr X, felly cafodd y gĹľyn ei chadarnhau. O ran meddyginiaeth, canfuâr ymchwiliad fod rhagnodi meddyginiaeth i Mr X yn unol ââr arfer arferol. Fodd bynnag, oherwydd diffyg cyswllt â Mr X, methodd â thrafod ei bryderon am ei feddyginiaeth. Nid oedd yr ymchwiliad yn cadarnhauâr elfen hon oâr gĹľyn.
Cadarnhaodd yr ymchwiliad gĹľyn Ms X fod y cyfathrebu â Mr X aâi deulu yn wael, am y rheswm a nodir uchod, ac oherwydd bod Mr X a Ms Y wedi cael gwybod, yn anghywir, y byddent yn cael apwyntiadau fel claf allanol yn weddol fuan ar Ă´l i Mr X gael ei ryddhau oâr ysbyty, pan nad oedd hynnyân wir. Roedd pryderon hefyd y cynghorwyd Mr X i gysylltu ââi feddyg teulu pan oedd angen cyngor arbenigol, bod oedi sylweddol o ran cyfathrebu mewnol yn y Bwrdd Iechyd, ac oedi o ran delio â chwynion fel nad oedd Mr X yn ymwybodol o ganlyniad y gĹľyn cyn ei farwolaeth. Roedd hyn i gyd wedi achosi anghyfiawnder iddo.
Ni chafodd y gĹľyn nad oedd Mr X wedi cael asesiad galluedd ei chadarnhau gan fod tystiolaeth bod asesiad manwl wediâi gynnal pan oedd Mr X yn glaf mewnol, a oedd yn cael ei ystyried yn ddigonol i gofnodi bod gan Mr X alluedd.
Roedd y Bwrdd Iechyd wedi recriwtio niwro-radiolegwyr i fynd iâr afael ââr prinder arbenigwyr cyn iâr adroddiad hwn gael ei gwblhau. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i ymddiheuroân llawn i Ms Y, i ystyried cynnal archwiliadau o oedi wrth deipio a chofnodi ceisiadau am sgan ar y system MRI, ac am eu proses ar gyfer cyfleu canlyniadau annormal i glinigwyr. Cytunodd hefyd i ystyried gwahodd arbenigwyr o wahanol dimau i gyfarfodydd amlddisgyblaethol gwasanaethau eraill er mwyn trafod cleifion sydd â chyflyrau iechyd lluosog.