Cwynodd Miss W am fethiant y Bwrdd Iechyd i ddarparu ffisiotherapi iâw mam, Mrs X, yn ystod ei chyfnod yn yr ysbyty, ac i ddarparu ffisiotherapi a chymorth arall ar Ă´l iddi gael ei rhyddhau. Roedd Miss W yn credu bod gwahaniaethu wedi bod yn erbyn ei mam oherwydd ei hanabledd (roedd yn dioddef o sglerosis ymledol â âMSâ).
Canfuâr Ombwdsmon fod Mrs X yn cael sesiynau ffisiotherapi rheolaidd, wediâu teilwra iâw gallu ar y pryd, er na wnaethant gyflawniâr hyn yr oedd Mrs X yn gobeithio y byddent yn ei wneud, sef ei galluogi i gerdded eto. Er bod anabledd Mrs X, o reidrwydd, wedi effeithio ar y ffordd yr oedd gweithwyr proffesiynol yn gweithio gyda hi, nid oeddent yn gwahaniaethu yn ei herbyn oherwydd ei hanabledd. Ni fyddai ffisiotherapi parhaus ar Ă´l iddi gael ei rhyddhau wedi bod yn briodol, ac felly roedd yn rhesymol peidio ag atgyfeirio. Cynhaliwyd asesiadau priodol o anghenion cefnogi Mrs X, a gwnaed trefniadau ar gyfer pecyn o ofal ac offer ar gyfer Mrs X ar Ă´l iddi gael ei rhyddhau. Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhauâr gĹľyn.