Cwynodd Ms X am y gofal aâr driniaeth a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (ây Bwrdd Iechydâ). Yn benodol, cwynodd Ms X nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymchwilioân briodol i achosion ei phoen cefn aâu trin rhwng mis Hydref 2018 a mis Ionawr 2020, nac achosion y boen yn ei chlun rhwng mis Hydref 2019 a mis Ionawr 2020. Cwynodd Ms X hefyd nad oedd Gwasanaeth Rheoli Poen y Bwrdd Iechyd wedi rhoi triniaeth resymol ac amserol iddi rhwng mis Ionawr 2019 a mis Ionawr 2020.
Canfuâr ymchwiliad fod y Bwrdd Iechyd wedi ymchwilio i achosion poen cefn Ms X yn briodol, ond ni allai ganfod beth oedd achos ei phoen. Roedd hefyd wedi cwblhau ymchwiliadau priodol iâr boen yn ei chlun, ond unwaith eto, ni ellid canfod unrhyw achos. Oherwydd nad oedd achos clir, cafodd poen Ms X ei drin. Er bod yr ymchwiliad wedi canfod oedi cyn cynnig triniaeth i Ms X, nid oedd hyn mor hir nes ei fod yn afresymol, ac roedd yn unol ââr canllawiau. Am y rhesymau hyn, ni chafodd y gĹľyn ei chadarnhau.