Cwynodd Ms X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (ây Bwrdd Iechydâ) wedi methu â thrafod cost triniaeth/cymorth ââi thad, Mr Y, un o ddinasyddion y DU syân byw dramor, a/neu ei deulu, cyn ei driniaeth/lawdriniaeth i sicrhau ei fod ef a/neu ei deulu yn cael gwybodaeth lawn am yr holl gostau dan sylw ac yn cael amserlen briodol i wneud penderfyniad gwybodus. Cwynodd Ms X hefyd fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â delio ââi chĹľyn yn briodol ac wedi methu â rhoi ymateb digonol.
Canfuâr ymchwiliad fod Mr Y yn atebol i dalu am ei ofal aâi driniaeth gan nad oedd yn preswylio yn y DU fel arfer. Ar sail tebygolrwydd, roedd yn fwy tebygol na pheidio bod Mr Y a/neu ei deulu wedi cael gwybod yn yr Adran Achosion Brys y gallai fod angen i Mr Y dalu am ei ofal aâi driniaeth. Nid oedd ei lawdriniaeth frys wediâi heithrio rhag gorfod talu ffioedd gan fod ei driniaeth wediâi rhoi ar Ă´l iddo gael ei dderbyn i ward ac nid pan oedd yn yr Adran Achosion Brys. Canfuâr ymchwiliad, er nad oedd y TĂŽm Gweinyddu Tramor wedi ymweld â Mr Y cyn ei lawdriniaeth, ni fyddai wedi bod yn briodol gohirio ei lawdriniaeth, sef yr unig opsiwn. Felly, nid oedd cadarnhad dros yr elfen hon oâr gĹľyn. Fodd bynnag, canfuâr ymchwiliad nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi ymateb digonol i Ms X iâw chĹľyn ac nad oedd wedi delio ââi chĹľyn yn briodol. Felly roedd cafodd yr elfen hon o’r gĹľyn ei chadarnhau.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i roi ymddiheuriad ysgrifenedig i Ms X a thalu ÂŁ250 i gydnabod yr amser aâr drafferth y gellid fod wedi ei hosgoi o gyflwyno ei chĹľyn iâr Ombwdsmon.