Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy’r tŷ. Ffenestri dwbl) : Valleys To Coast Housing – PSOW Cymraeg

Report Date

07/05/2021

Subject

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Case Reference Number

202005311

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod cymdeithas dai Valleys To Coast Housing (“y Gymdeithas”) wedi methu â chwblhau’r rhestr waith angenrheidiol fel rhan o hysbysiad gwella a gyhoeddwyd gan adran Iechyd yr Amgylchedd ei awdurdod lleol, gyda’r bwriad o ddatrys problemau sy’n gysylltiedig â thamprwydd yn ei dŷ.

Cytunodd y Gymdeithas i ysgrifennu at Mr X, o fewn 20 diwrnod gwaith i nodi’r rhesymau dros unrhyw oedi, pa waith yr oedd wedi’i gwblhau, beth oedd heb ei gyflawni a phryd y byddai’r gwaith hwnnw’n cael ei gwblhau. Fe wnaethon nhw gytuno hefyd i adolygu unrhyw hawliadau am ddifrod i eiddo a achoswyd gan y tamprwydd. Yn olaf, cytunwyd i gynnal archwiliad gyda Mr X ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau, er mwyn sicrhau bod yr holl faterion a oedd heb eu datrys yn cael eu datrys. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn setliad priodol.