Cwynodd Miss A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd aâr Fro (ây Bwrdd Iechydâ) wedi methu â chynnal profion diagnostig priodol pan oedd ei mam wedi mynd iâr ysbyty amryw o weithiau ar Ă´l iddi gael trawiad ar y galon yn 2019.
Dywedodd Miss A fod y staff meddygol a oruchwyliodd ofal ei mam yn ystod y cyfnod hwn hefyd wedi gwrthod y dewis o lawdriniaeth ddargyfeiriol ar y galon. Roedd ei mam wedi cael ei harchwilioân breifat a dywedodd fod y gweithiwr proffesiynol meddygol a oedd yn gyfrifol am ei hymgynghoriad wedi dweud wrthi y dylid ystyried llawdriniaeth ddargyfeirioâr galon.
Ystyriodd yr Ombwdsmon yr wybodaeth a oedd ar gael iddo ac roedd yn bryderus nad oedd yn ymddangos bod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi cynnig o ail farn i fam Miss A. Felly, cysylltodd ââr Bwrdd Iechyd.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud y canlynol:
1) Trefnu apwyntiad gydag un oâi Ymgynghorwyr, nad oedd ei mam wedi gweld oâr blaen.
2) Bydd yr Ymgynghorydd hwn yn rhoi ail farn ynghylch a yw llawdriniaeth ddargyfeiriol y galon yn opsiwn rhesymol ar gyfer cyflwr ei mam.
Cytunodd i drefnu apwyntiad iâw mam fynychu o fewn 12 wythnos iâr llythyr penderfyniad hwn a rhoi gwybod iâw mam am ddyddiad yr apwyntiad pan gaiff ei gadarnhau.