Cwynodd Ms X ar ran ei diweddar dad, Mr Y, nad oedd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (âWASTâ) wedi darparu gofal a thriniaeth amserol a rhesymol i Mr Y ar 12 Rhagfyr 2019. Cwynodd Ms X hefyd nad oedd wedi ymdrin yn briodol ââi chĹľyn i WAST.
Canfuâr ymchwiliad nad oedd WAST wedi darparu gofal amserol a phriodol i Mr Y. Yn benodol, canfu er bod WAST yn brysur iawn ar y diwrnod dan sylw, roedd adegau pan nad oedd dan bwysau gweithredol, neu pan y dylai er hynny fod wedi rhoi blaenoriaeth i alwadau i rai yn sefyllfa Mr Y. Hefyd, ni chafodd Mr Y ei alwân Ă´l ar sawl achlysur, ac roedd sbardunau i ymateb i alwad Mr Y wediâu colli. Cafodd lefel flaenoriaeth ei alwad ei huwchgyfeirio yn y diwedd bymtheng awr ar Ă´l iddo ffonio gyntaf, a bron i 9 awr ar Ă´l i rywun siarad ag ef.
Cynghorwyd Mr Y fwy nag unwaith o beidio yfed dim, a bod hynny wedi golygu ei fod wedi bod heb hylifau am 22 awr. Roedd y methiannau gwasanaeth a ganfuwyd wedi achosi anghyfiawnder sylweddol i Ĺľr oedrannus am iddo gael ei adael ar ei ben ei hun ac mewn poen wrth aros am ambiwlans, a phan gyrhaeddodd yr ysbyty roedd yn sych ac maeân debyg ei fod wedi dadhydradu o ganlyniad. Canfuâr ymchwiliad hefyd nad ymdriniwyd yn briodol â chĹľyn Ms X, bod oedi cyn ymateb iâr gĹľyn, ac na chafodd eglurhad am yr hyn a ddigwyddodd i Mr Y, a bod WAST yn ail bwysleisio eu bod yn brysur y diwrnod hwnnw. Felly cadarnhaodd yr Ombwdsmon y ddwy elfen o gĹľyn Ms X.
Gan fod WAST wedi nodi eisoes feysydd yr oedd angen eu diweddaru o ganlyniad iâw ymchwiliad mewnol ei hun iâr gĹľyn, argymhellodd yr Ombwdsmon fod WAST yn rhoi adborth i Ms X ar gynnydd yr argymhellion penodol hynny. Yn benodol, cytunodd WAST i roi adborth ar gynnydd yn ymwneud â hyfforddi staff ychwanegol, adolygu canllawiau gwirio llesiant (yn benodol o ran uwchgyfeirio galwadau os nad oes cysylltiad ââr claf, ac o ran y cyngor a roddir i alwyr pan fydd y claf wedi bod yn aros yn hir) ac i ddangos pan fydd cleifion yn cael eu nodi fel rhai sydd ar eu pen eu hunain neuân agored i niwed mewn unrhyw ffordd.