Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Maethu a Phlant Eraill sy’n Derbyn Gofal : Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr – PSOW Cymraeg

Report Date

21/06/2021

Subject

Maethu a Phlant Eraill sy'n Derbyn Gofal

Case Reference Number

202101275

Outcome

Datrys yn gynnar

Mae Mr X yn ofalydd maeth i’w ŵyr. Cwynodd nad oedd y Cyngor yn caniatáu iddo gael mynediad at ran o’i bolisi talu; dywedodd y dylai pob gofalydd maeth gael eu trin yn gyfartal.

Ar sail yr wybodaeth oedd ar gael, ymddengys i’r Ombwdsmon y dylai cwyn Mr X fod wedi cael ei hystyried o dan y weithdrefn cwynion statudol gwasanaethau cymdeithasol, ond nid dyna a ddigwyddodd.

Cytunodd y Cyngor i ymddiheuro i Mr X ac i agor ymchwiliad o dan gam 2 o’r broses statudol o fewn 1 mis.