Cwynodd Mrs A am gyfathrebu gwael ac ymdrin yn wael â chwynion gan feddygon teulu a Phractis Meddygon Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (ây Practis Meddygon Teuluâ) a methiant i drefnu cyfarfod anffurfiol am fisoedd er gwaethaf ei cheisiadau niferus.
Er bod ymchwiliad yr Ombwdsmon wedi canfod bod oedi cyn iâr Practis Meddygon Teulu ymateb i bryderon Mrs A, roedd hyn oherwydd fod angen iâr Practis Meddygon Teulu ystyried gohebiaeth bellach a anfonwyd gan Mrs A aâi gĹľr. Roedd yr Ombwdsmon oâr farn y byddai wedi bod yn well iâr Practis Meddygon Teulu fod wedi cysylltu â Mrs A iâw hysbysu na fyddaiân gallu ymateb o fewn yr amserlen a ddarparwyd yn flaenorol. Wedi dweud hynny, nid oedd yr Ombwdsmon yn credu bod yr oedi wedi achosi unrhyw anghyfiawnder sylweddol i Mrs A. Nododd yr Ombwdsmon fod Rheolwr y Practis Meddygon Teulu wedi gofyn am wybodaeth benodol gan Mrs A ac y byddaiân trefnu cyfarfod ar Ă´l derbyn y wybodaeth. Fodd bynnag, nid oedd cofnod fod y Practis Meddygon Teulu wedi derbyn y wybodaeth. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon yr elfennau hyn o gĹľyn Mrs A.