Cwynodd Mr K am y gofal aâr driniaeth a ddarparwyd iâw ddiweddar fam (âMrs Lâ) gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (ây Bwrdd Iechydâ) ac am ei ymateb iâw bryderon.
Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gĹľyn Mr K fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb yn ddigonol ac yn amserol iâw gĹľyn. Canfuâr ymchwiliad fod methiannau i ddelio â chwynion wedi achosi oedi annerbyniol o 4 blynedd wrth ymateb iâr gĹľyn a bod y Bwrdd Iechyd wedi methu â rhoi sylw i rai o brif bryderon Mr K. Achosodd hyn anghyfiawnder i Mr K oherwydd yr ansicrwydd hirfaith aâr anhwylustod sylweddol a gafodd wrth fynd ar Ă´l ei gĹľyn. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gĹľyn Mr K nad oedd Mrs L wedi cael gofal dementia digonol yn Ysbytyâr Waun, ond nododd fod y Bwrdd Iechyd wedi derbyn y bu methiannau ac wedi cymryd camau cywiro priodol. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gĹľyn Mr K fod y Bwrdd Iechyd wedi colli cyfleoedd i gydnabod methiannau ym mhroses asesu Gofal Iechyd Parhaus y GIG. Er bod y Bwrdd Iechyd wedi ailadrodd ei gynnig o adolygiad Ă´l-weithredol, byddai hyn wedi digwydd yn llawer cynt pe bai wedi ymdrin â phryderon Mr K yn briodol.
Canfuâr ymchwiliad fod y rheoli ar anghenion gofal croen Mrs L yn Ysbytyâr Waun yn briodol. Fodd bynnag, cadarnhaodd yr Ombwdsmon yr agwedd ar y gĹľyn hon a oedd yn ymwneud ââr gwasanaeth nyrsys ardal. Canfuâr ymchwiliad y bu methiannau yn y ffordd yr oedd nyrsys ardal yn cyfathrebu ââi gilydd, y teulu a staff cartref gofal, ac yn y gwaith o gofnodi asesiadau. Roedd hyn yn anghyfiawnder sylweddol â Mrs L oherwydd y gallaiâr methiannau fod wedi cyfrannu at ddirywiad yng nghyflwr y clwyf ar ei ffĂŞr, niwed pwysedd iâw chlun chwith a methiant i reoli poen cysylltiedig.
Sylwer: Mae crynodebauân cael eu paratoi o bob adroddiad a ddarperir gan yr Ombwdsmon. Fe all y crynodeb hwn gael ei ddangos ar wefan yr Ombwdsmon ac fe all gael ei gynnwys mewn cyhoeddiadau gan yr Ombwdsmon a/neu mewn cyfryngau eraill. Os hoffech chi drafod y defnydd oâr crynodeb hwn, cysylltwch â swyddfaâr Ombwdsmon.
Nododd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi adolygu ei brosesau ac wedi cymryd camau cywiro priodol mewn ymateb iâr methiannau a nodwyd. Canfuâr ymchwiliad fod y rheoli ar anghenion gofal croen Mrs L yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn briodol. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gĹľyn hon felly.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylaiâr Bwrdd Iechyd, o fewn 1 mis, ymddiheuro i Mr K a thalu ÂŁ2,025 iddo mewn perthynas â methiannau i ddelio â chwynion ac effaith y methiannau nyrsys ardal. Argymhellodd hefyd y dylaiâr Bwrdd Iechyd, o fewn 4 mis, gynnal adolygiad oâi bolisĂŻau rheoli cwynion a dechrau defnyddio adroddiad yr ymchwiliad fel astudiaeth achos ar gyfer hyfforddiant mewnol ar ddelio â chwynion. Cytunodd y Bwrdd Iechyd â’r argymhellion hyn.