Ar 16 Medi 2019, aeth Mrs X iâr Practis a chwyno am boen iâw dant a bod aroglau drwg arno. Ar 18 Medi gosodwyd coron borslen ar yr ail gilddant blaen chwith (âyr UL5â). Dywedodd Mrs X fod y âdant anghywirâ wedi cael ei drin, dywedodd maiâr ail gilddant blaen chwith (âyr UL4â) ddylai fod wedi cael ei drin. Dywedodd Mrs X nad oedd y Deintydd wedi esbonioâr driniaeth. Dywedodd Mrs X fod yr UL5 wedi syrthio allan ychydig ddyddiauân ddiweddarach. Cwynodd Mrs X ei bod wedi cael ei gadael â bwlch yn ei dannedd. Erbyn hyn, maeân siarad â lisb ac nid ywân gallu gwenu na chael ei llun wediâi dynnu. Ceisiodd Mrs X ddyfynbrisiau am waith deintyddol preifat i adfer yr UL5 drwy fewnblaniad.
Canfuâr Ombwdsmon fod y gymhariaeth rhwng pelydrau X a gymerwyd ar 1 Ebrill 2020 ac 16 Ebrill aâr rheini a gymerwyd ar 3 Mawrth 2021 wedi cadarnhau nad oedd problem gydag UL4. Canfu fod UL5 wedi cael ei drin yn briodol â choron; ni chafodd y âdant anghywirâ ei drin. Canfuâr Ombwdsmon y dylid bod wedi trafod yr ansicrwydd ynghylch triniaeth a phrognosis cyfyngedig UL5 gyda Mrs X. Canfu hefyd y dylid bod wedi cyflwyno opsiynau i Mrs X â tynnuâr dant, ei adfer gyda choron neu lenwad mawr, ond y byddai coron yn well. Canfu nad yw mewnblaniad yn cael ei ddarparu gan y GIG; dim ond dannedd gosod y maeân eu cynnig. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gĹľyn ar y sail na roddwyd opsiynau i Mrs X.
Cytunodd y Practis i weithredu argymhellion yr Ombwdsmon o fewn 1 mis, sef ymddiheuro i Mrs X am y methiannau, sicrhau bod ei ddeintyddion yn cael eu hatgoffa i drafod ac ystyried opsiynau triniaeth, a thalu iawndal o ÂŁ367 fel cyfraniad rhesymol tuag at ddant gosod ar gyfer UL5 (syân adlewyrchu canran ar gyfer triniaeth iâr UL5 drwy ddant gosod yn unig).