Cwynodd Mr X fod Cymdeithas Tai Rhondda Cyf (ây Gymdeithasâ) wedi ysgrifennu ato yn dilyn cwyn a dderbyniodd ac wedi gwneud cyhuddiadau amdano yr oedd ef yn dweud ei fod yn ddieuog ohonynt. Dywedodd nad oedd wedi gwneud dim i dorri ei gytundeb tenantiaeth. Cwynodd Mr X hefyd nad oedd y Gymdeithas wedi ymateb iâw lythyrau cwyno.
Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus am yr oedi a brofodd Mr X o ran cael ymateb iâr gĹľyn a bod y diffyg gweithredu gan y Gymdeithas wedi achosi anhwylustod iddo.
Dywedodd y Gymdeithas wrth yr Ombwdsmon y byddai canlyniad achos Mr X yn dibynnu ar wrandawiad llys yn gysylltiedig â digwyddiad yn ymwneud â Mr X aâi gymydog, a oedd i fod i gael ei gynnal ym mis Awst 2021. Yn unol â hynny, ni allaiâr Ombwdsmon ystyried materion a oedd yn rhan o achos llys. Mewn perthynas ââr mater delio â chwynion, ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i:
¡ Rhoi ymateb ffurfiol i Mr X iâw gĹľyn o fewn 2 wythnos iâr Gwrandawiad Llys, a oedd i fod i gael ei gynnal ym mis Awst 2021.
¡ Rhoi gwybodaeth i Mr X am y broses gwyno ffurfiol, gan gynnwys y camau gweithredu arfaethedig a amlinellir uchod, o fewn 2 wythnos i ddyddiad llythyr yr Ombwdsmon.