Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Rheoliadau a rheolaeth traffig (twmpathau cyflymder a.y.y.b.) : Cyngor Caerdydd – PSOW Cymraeg

Report Date

01/07/2021

Subject

Rheoliadau a rheolaeth traffig (twmpathau cyflymder a.y.y.b.)

Case Reference Number

202100481

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am y ffordd y deliodd y Cyngor â 2 gŵyn a gyflwynwyd mewn perthynas â chynllun traffig arfaethedig.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu ag ymateb yn brydlon i Mr A ynglŷn â’i ddwy gŵyn. Achosodd hyn straen a rhwystredigaeth i Mr A yn ei ymdrechion i gael ymateb gan y Cyngor.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro, o fewn 20 diwrnod gwaith, i Mr A a thalu iawndal o £250 iddo i gydnabod yr amser a’r drafferth a gymerodd wrth fynd ar drywydd ei gwynion.