Cwynodd Miss M am yr oedi cyn gwneud diagnosis o ganser yr ofari, aâr methiannau yng ngohebiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (ây Bwrdd Iechydâ) â hi.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gyfarwyddo arbenigwr clinigol annibynnol, gyda mewnbwn gan Miss M, i adolyguâr gwaith o reoli ei gofal. Cytunodd hefyd i ystyried unrhyw fethiannau a nodwyd ar gyfer gwneud iawn (mewn proses debyg i honno, sydd wediâi chynnwys yn y broses gwyno), ac i weithredu ar unrhyw ddysgu neu argymhellion a wnaed mewn perthynas â thriniaeth Miss M neu ar gyfer cleifion yn y dyfodol. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ddrafftioâr llythyr cyfarwyddyd ar gyfer cytundeb Miss M o fewn 10 diwrnod gwaith, gan nodi bod y broses yn debygol o gymryd tua 3 mis.