Cwynodd Mrs A am y gofal a ddarparwyd gan Feddygfa Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (ây Practisâ) iâw diweddar chwaer, mewn perthynas ââi phryder ac, yn benodol, bod y Practis wedi gwrthod ymweld ââi chartref cyn iddi farw. Cwestiynodd Mrs A y feddyginiaeth a roddwyd iâw chwaer yn dilyn strĂ´c. Roedd hiân anhapus gydaâr ymateb iâr gĹľyn a dderbyniwyd gan y Practis.
Canfuâr Ombwdsmon nad oedd ymateb y Practis i gwynion ond yn darparu ymatebion cryno iâr cwestiynau penodol a godwyd ac roedd yn ymddangos nad oedd digon o fanylion, cyd-destun ac esboniad. Roedd rhywfaint o oedi hefyd wrth ymchwilio i gĹľyn Mrs A ac o ran rhoi ymateb iddi.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Practis, o fewn 20 diwrnod gwaith, i roi ymateb pellach, manylach i Mrs A, gan roi sylw iâr pryderon a godwyd yn ei chwyn iâr Ombwdsmon, ynghyd ag ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi wrth ymateb iâw chwyn gychwynnol. Barn yr Ombwdsmon oedd bod y camau uchod yn rhesymol i setlo cwyn Mrs A.