Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy’r tŷ. Ffenestri dwbl) : Cymdeithas Tai Linc Cymru – PSOW Cymraeg

Report Date

12/08/2021

Subject

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Case Reference Number

202102030

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X nad oedd y Gymdeithas wedi gwneud gwaith atgyweirio brys yn ei chartref, ac nad oedd wedi ymateb yn ddigonol i’w chwyn.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus am yr oedi wrth wneud y gwaith atgyweirio angenrheidiol, yr oedi o ran rhoi gwybod i Miss X am statws yr atgyweiriadau a’i bod wedi cael ei hanhwyluso gan weithredoedd y Gymdeithas. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i:

• Ymddiheuro i Miss X am yr oedi cyn mynd i’r afael â’r materion a godwyd yn ei chwyn

• Rhoi ymateb pellach i gŵyn Miss X, gan amlinellu’r camau a gynigir i fynd ymhellach i’r afael â materion sylweddol ei chwyn, a fyddai’n cynnwys unrhyw gamau gweithredu sydd eisoes wedi cael sylw.

Cytunodd y Gymdeithas i gyflawni’r camau gweithredu o fewn pythefnos.