Cwynodd Mrs X nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd aâr Fro (ây Bwrdd Iechydâ) wedi cynnal adolygiad blynyddol oâi mab, fel yr argymhellwyd gan ymgynghorydd preifat.
Canfuâr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi gwrthod ystyried cwyn Mrs X, a gyflwynwyd ym mis Mai 2021, gan ei fod yn dweud ei fod wedi darparu ymateb yn flaenorol ym mis Rhagfyr 2019. Canfuâr Ombwdsmon fod yr ymateb ym mis Rhagfyr 2019 yn rhoi sylw i wahanol faterion ac nad oedd Mrs X wedi darparu copĂŻau o ohebiaeth gan yr ymgynghorydd preifat iâr Bwrdd Iechyd i gefnogi ei chwyn.
Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu cadarnhad ysgrifenedig o fewn 10 diwrnod gwaith i Mrs X y byddaiân ymchwilio iâw chwyn am adolygiad blynyddol ei mab ac yn ymateb yn unol â phroses Gweithio i Wellaâr GIG.