Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy’r tŷ. Ffenestri dwbl) : Pobl – PSOW Cymraeg

Report Date

11/08/2021

Subject

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Case Reference Number

202102298

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod tamprwydd yn ei eiddo a achoswyd gan yr eiddo drws nesaf sy’n eiddo i’r Gymdeithas. Cwynodd hefyd nad oedd wedi cael ymateb i’w gŵyn.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Mr X wedi cael ymateb ffurfiol i’w gŵyn a bod gweithredoedd y Gymdeithas wedi peri anhwylustod iddo. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i gyflawni’r camau canlynol o fewn pythefnos:

• Rhoi ymateb ffurfiol i gŵyn Mr X
• Rhoi esboniad i Mr X am yr oedi cyn darparu ymateb ffurfiol
• Ymddiheuro i Mr X am yr oedi