Cwynodd Ms A am briodolrwydd ei gofal, aâr rheolaeth a thriniaeth ei symptomau ynghylch Syndrom Tachycardia Orthostatig Ystumiol (âPoTSâ) gan yr Adran Gardioleg.
Ni lwyddodd yr archwiliad i bennuâr rheswm dros yr oedi yn argaeledd canlyniadau ei phrofion (26 mis), pa arbenigedd neu glinigwr oedd â mynediad iâw chanlyniadau er mwyn eu dehongli, a phwy wnaeth gyflwyno diagnosis ffurfiol, neu pryd ddigwyddodd hyn. Daeth yr archwiliad iâr casgliad fod y feddyginiaeth a awgrymwyd ac a roddwyd ar bresgripsiwn gan y Cardiolegydd Ymgynghorol yn briodol yn glinigol, fodd bynnag, nid oedd yr ohebiaeth a anfonwyd iâr meddyg teulu. Daeth yr archwiliad iâr casgliad na wnaeth y Cardiolegydd Ymgynghorol roi camau priodol ar waith un ai i adeiladu ei wybodaeth ei hun o PoTS neu i nodi rhywun gyda lefel uwch o arbenigedd. Oherwydd hyn, cadarnhawyd agweddau ar gĹľyn Ms A ynghylch cyfathrebu am y diagnosis, rheolaeth oâi chyflwr a diffyg atgyfeirio at farn arbenigol. Daeth yr archwiliad iâr casgliad ei fod yn briodol yn glinigol i Ms A gael ei rhyddhau oâr Adran Gardioleg yn ystod haf 2019.
Cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (ây Bwrdd Iechydâ) i ymddiheuro i Ms A a sicrhau bod y Cardiolegydd Ymgynghorol yn myfyrio ac yn trafod cynnwys ei ohebiaeth gydaâr meddyg teulu yn ystod ei arfarniad nesaf. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymchwilio adnoddau PoTS, asesu a oedd oâr farn y byddai Ms A yn elwa ar atgyfeiriad at glinigwr gydag arbenigedd mewn PoTS a chynnal archwiliad i bennu a dderbyniwyd canlyniadauâr prawf ar unrhyw bwynt cyn mis Hydref 2020.