Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty : Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – PSOW Cymraeg

Report Date

02/11/2021

Subject

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Case Reference Number

202003223

Outcome

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Ms A, sy’n byw yn Lloegr, am ofal a thriniaeth Adran Achosion Brys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”) yn Ysbyty Maelor Wrecsam ar 14 Medi 2019. Roedd yn anfodlon gyda’r ffordd yr ymdriniwyd â’i chĹľyn a chadernid yr ymateb a oedd yn ymestyn i’r Gwasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau.

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon y gellid bod wedi rheoli meysydd o ofal Ms A yn well, er enghraifft, ei hasesiad poen. Fodd bynnag, yn seiliedig ar y dystiolaeth, daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad, adeg brysbennu Ms A yn yr Adran Achosion Brys, yn seiliedig ar ei chyflwyniadau clinigol, nid oedd unrhyw arwydd i awgrymu bod Ms A mewn perygl o sepsis.

Yn weinyddol, fel y gwnaeth y Bwrdd Iechyd, canfu’r Ombwdsmon fethiannau dogfennu ar ran Nyrs Brysbennu’r Adran Achosion Brys a gyfrannodd at ddiffyg eglurder ynglšn â llwybr gofal Ms A, gan achosi anghyfiawnder i Ms A. I’r graddau cyfyngedig hyn yn unig, cadarnhaodd yr Ombwdsmon yr elfen hon o gĹľyn Ms A.

Mewn perthynas ag ymdrin â chwynion, daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd y cyfathrebu mor effeithiol ag y dylai fod ac ategwyd hynny gydag oedi gormodol yn ymateb y Bwrdd Iechyd i gŵyn Ms A heb unrhyw dystiolaeth argyhoeddiadol ar y ffeil gwynion ynglŷn â pham y dylai hynny fod yn wir. Wedi dweud hynny, canfu’r Ombwdsmon, yn fras, fod ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn wedi bod yn gadarn a bod y Bwrdd Iechyd wedi cydnabod meysydd i wella yn ei Wasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau wrth ddelio â chleifion yn Lloegr sy’n cael mynediad at ofal yng Nghymru, ac mae wedi cymryd camau i fynd i’r afael â hynny. Ystyriodd yr Ombwdsmon fod y diffygion wrth ymdrin â’r gŵyn a’r anghyfleustra a achoswyd i Ms A yn anghyfiawnder. I’r graddau hynny, cadarnhaodd yr elfen hon o gŵyn Ms A.

Roedd argymhellion yr Ombwdsmon yn cynnwys ymddiheuriad y Bwrdd Iechyd i Ms A, iawndal o ÂŁ250 am yr anghyfleustra a achoswyd yn sgil y ffordd yr ymdriniwyd â’i chĹľyn, ystyried gweithredu polisi i ymdrin â sefyllfaoedd lle caiff cleifion eu hailgyfeirio o’r adran Achosion Brys i’w wasanaethau gofal sylfaenol ac adolygu ei ddogfennaeth sepsis.