Cwynodd Mr Y fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (ây Bwrdd Iechydâ) rhwng 21 Ionawr 2018 a 13 Tachwedd 2019, wedi methu â monitro ac ymchwilio i lefel ei PSA cynyddol yn briodol (antigen syân benodol iâr prostad â nid yw prawf PSA yn brawf penodol ar gyfer canser y prostad ond yn arwydd o risg o ganser; gall lefel PSA uwch ddangos canser y prostad). Ym mis Medi 2019, datgelodd archwiliadau dystiolaeth o ganser y prostad metastatig (canser sydd wedi lledaenu o’r safle gwreiddiol). Credai Mr Y y cafwyd oedi gydaâr diagnosis, ac y dylai fod wedi cael cynnig sgan delweddu cyseiniant magnetig (MRI) (math o sgan syân defnyddio meysydd magnetig cryf a thonnau radio i gynhyrchu delweddau manwl o du mewn y corff) fel rhan o’r ymchwiliadau i’w lefel PSA cynyddol, a allai fod wedi arwain at ddiagnosis cynharach.
Canfuâr Ombwdsmon, rhwng Ionawr 2018 a Mawrth 2019, fod Mr Y wedi derbyn gofal clinigol ac archwiliadau priodol. Roedd hefyd yn fodlon nad oedd unrhyw arwydd clinigol am sgan MRI. Fodd bynnag, canfuâr Ombwdsmon, er bod y lefel PSA yn 66 ym mis Mawrth 2019, methwyd â chydnabod arwyddocâd y cynnydd hwn, ac o ganlyniad, cafwyd oedi o 6 mis cyn i Mr Y gael diagnosis a thriniaeth briodol. Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod y methiant i nodi arwyddocâd y PSA cynyddol yn fethiant yn y gwasanaeth a arweiniodd at anghyfiawnder i Mr Y gan fod ei driniaeth wediâi oedi 6 mis.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr Y am y methiant a nodwyd, i rannuâr adroddiad gydag un oâr ymgynghorwyr triniaethau i fyfyrio arno ac i ddysgu wrtho, ac adolygu ei ddefnydd o feddygon ymgynghorol locwm.