Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Addysg anghenion arbennig (AAA) : Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr – PSOW Cymraeg

Report Date

25/11/2021

Subject

Addysg anghenion arbennig (AAA)

Case Reference Number

202004968

Outcome

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr N fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (“y Cyngor”), yn ei rinwedd fel Awdurdod Addysg Lleol (“AALl”) wedi methu â darparu’n ddigonol ar gyfer addysg ei ŵyr, D. Yn benodol, roedd yn bryderus bod y broses o asesu anghenion addysgol arbennig D a chwblhau Datganiad Anghenion Addysgol Arbennig wedi’i hoedi’n ddiangen a bod y Cyngor wedi methu â gwneud trefniadau priodol i sicrhau bod y Datganiad Anghenion Addysgol Arbennig yn cael ei weithredu’n effeithiol. Cwynodd hefyd fod y Cyngor wedi methu â darparu ymateb digonol i’w gŵyn.

Canfu’r ymchwiliad y bu camweinyddu o ran oedi anesboniadwy yng ngham 1 o’r broses asesu, ond ni chadarnhaodd yr elfen honno o’r gŵyn oherwydd nad oedd y methiannau wedi achosi niwed neu anghyfiawnder. Canfu nad oedd unrhyw dystiolaeth o gamweinyddu o ran trefniadau’r AALl i weithredu’r Datganiad Anghenion Addysgol Arbennig. Am y rheswm hwnnw, ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon yr elfen honno o’r gŵyn. I gloi, canfu’r ymchwiliad y bu fethiant ar ran y Cyngor i fynd i’r afael â chŵyn Mr N yn briodol o ran darpariaeth D. Yn unol â hynny, cadarnhaodd yr Ombwdsmon yr elfen honno o’r gŵyn.

Cytunodd y Cyngor i argymhellion yr Ombwdsmon, i ymddiheuro i Mr N o fewn 1 mis am ei fethiannau wrth ymdrin â’r gĹľyn ac i wneud taliad o ÂŁ125 iddo am yr amser a’r drafferth diangen wrth fynd ar drywydd ei gĹľyn.