Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Casgliad ysbwriel. Gwaredu gwastraff ac ailgylchu : Cyngor Caerdydd – PSOW Cymraeg

Report Date

19/11/2021

Subject

Casgliad ysbwriel. Gwaredu gwastraff ac ailgylchu

Case Reference Number

202105025

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod y Cyngor wedi methu â chasglu ei wastraff dro ar ôl tro.

Wrth ystyried y gŵyn hon, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd y Cyngor wedi rhoi ymateb manwl i’r achwynydd am y gŵyn. Cydnabu’r Cyngor y methiannau cyson o ran casglu’r gwastraff a chytunodd i ymgymryd â’r setliad canlynol i gŵyn Mr X:

Erbyn 17 Rhagfyr 2021,

1. Rhoi ymddiheuriad ysgrifenedig ffurfiol i Mr X.

2. Rhoi ymateb i gŵyn Mr X sy’n egluro’n llawn pam na chafodd y gwastraff ei gasglu a pha fesurau fydd yn cael eu rhoi ar waith i atal hyn rhag digwydd eto.

3. Rhoi iawndal o £50 i Mr X i gydnabod yr amser a’r drafferth a wynebodd.