Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy’r tŷ. Ffenestri dwbl) : Cymdeithas Tai Hafod – PSOW Cymraeg

Report Date

05/11/2021

Subject

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Case Reference Number

202105224

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod Cymdeithas Dai Hafod (“Hafod”) wedi methu â chynnal gwaith atgyweirio brys i ffenestri Mr X. Teimlai Mr X fod yr eiddo yn anniogel ac yn agored i’r tywydd garw. Mynegodd Mr X bryderon hefyd am ddiffyg ymateb i’w gŵyn.

Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai Hafod (o fewn 3 wythnos) roi ymddiheuriad ysgrifenedig i Mr X am beidio ag ymateb i’w gŵyn yn gynharach. Byddai hefyd yn ymweld â’r eiddo i weld bod y ffenestri yn ddiogel cyn eu newid fel rhan o’r gwaith cynnal a chadw a fwriadwyd yn 2022.

Ystyriodd yr Ombwdsmon fod hyn yn benderfyniad priodol i’r gŵyn yn hytrach na chynnal ymchwiliad.