Roedd Mr B wedi codi nifer o gwynion ar ran ei ddiweddar fam, Mrs A, am ei gofal aâi thriniaeth yn ystod tri arhosiad yn Ysbyty Prifysgol Llandochau (âyr Ysbytyâ) rhwng Awst a Hydref 2019.
Casglodd yr Ombwdsmon fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd aâr Fro (ây Bwrdd Iechydâ) wedi methu â darparu safonau gofal nyrsio priodol oherwydd diffyg cynllun gofal unigol, ymyriadau ar sail tystiolaeth, a gwerthusiadau nyrsio rheolaidd. O ganlyniad, ar Ă´l i Mrs A gael ei derbyn am yr eildro, ni chymerwyd camau priodol i reoliâr wlser ar ei choes a oedd ganddi ers tro byd, aâi lymffoedema (y system lymffatig wedi blocio). Nid oedd ychwaith unrhyw drefniadau yn eu lle i ddarparu gofal wlser parhaus gydaâr rhwymynnau pwyso arbenigol oedd yn cael eu defnyddio yn y gymuned. Roedd hyn wedi gwaethygu risg Mrs A o gael yr heintiau meinwe-dwfn difrifol yr aeth ymlaen iâw cael. Pan ryddhawyd Mrs A yn dilyn yr ail arhosiad, nid oedd asesiad ar gyfer cymorth gofal cartref wedi ystyried y mewnbwn blaenorol a dderbyniodd aâr cynnydd yn ei hanghenion gofal. Trefnwyd iddi dderbyn llai o ymweliadau gofal fel bod teulu Mrs A yn cael cryn drafferth ymdopi â lefel annigonol o gymorth am chwe diwrnod cyn i sylw gael ei roi iâr mater. Roedd gan Mrs A hefyd anghenion gofal nyrsio heb eu cwrdd yn ystod ei harhosiad olaf, yn ymwneud â rhyddhad poen a briwiau pwyso, hylendid personol ac yfed digon.
Casglodd yr Ombwdsmon hefyd fod staff meddygol, yn amhriodol, wedi gohirio ei chynllun gofal diwedd bywyd a chyfathrebu natur ddiwella diagnosis canser Mrs A iâw theulu tan yr oedd yn wynebu ei dyddiau olaf. Wrth ofyn am ei chaniatâd i gymryd rhan mewn astudiaeth feddygol, ni chafodd y drafodaeth â Mrs A ei chofnodi gan staff meddygol yn unol ââr canllawiau perthnasol. O ganlyniad, ni allaiâr Ombwdsmon ddweud i sicrwydd a oedd caniatâd ysgrifenedig Mrs A yn ddilys o ystyried y dystiolaeth ei bod yn cael pyliau o ddryswch ar y pryd.
Ni dderbyniodd yr Ombwdsmon y cwynion am ddarparu therapi gwrthfiotig a chasglodd ei fod wediâi ragnodiân unol ââr canllawiau clinigol. Casglodd hefyd fod ymateb priodol wediâi roi iâr pryderon diogelu.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro wrth Mr A a thalu iawndal o ÂŁ1,750 iddo i gydnabod y methiannau a gadarnhawyd aâr gofid diangen a achoswyd. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i rannu canfyddiadauâr adroddiad gyda staff perthnasol er mwyn hyrwyddo dysgu sefydliadol, a hefyd i ddarparu hyfforddiant i staff nyrsio ar atal briwiau pwyso, rheoli briwiau a hefyd ar asesiadau gofal a chynllunio gofal, ynghyd ag adolygu prosesau ac adnoddauâr ysbyty ar reoli briwiau a rhoi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod cleifion mewnol a asesir i fod angen rhwymynnau pwyso yn derbyn y pethau hyn.