Cwynodd Mrs A am y gofal aâr driniaeth a dderbyniodd ei diweddar Ĺľr (Mr A) gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (ây Bwrdd Iechydâ).
Casglodd yr ymchwiliad, oherwydd problemau capasiti, fod Mr A wedi wynebu oedi o 9 mis rhwng ei apwyntiad cychwynnol aâi apwyntiad dilynol yn y Clinig Cleifion Allanol Gastroenteroleg. Pe bai wedi cael ei weld yn gynt, gallaiâr ymchwiliadau a wnaed fod wedi adnabod y canser yn gynt. Roedd yr ansicrwydd hwn wedi achosi anghyfiawnder ac felly derbyniwyd y rhan yma o gĹľyn Mrs A.
Casglodd yr ymchwiliad hefyd:
⢠bod tystiolaeth y cafodd triniaethau fitamin E a âpioglitazoneâ eu crybwyll wrth Mr A a bod y penderfyniad i beidio eu rhagnodiân glinigol briodol.
⢠oherwydd gwall gweinyddol, anfonwyd presgripsiwn Mr A am gyffuriau lleddfu poen iâr feddygfa anghywir. Er bod y crynodeb rhyddhauân awgrymu iddo gael ei ryddhau gyda chyffuriau lleddfu poen, ni allaiâr Bwrdd Iechyd gadarnhau beth oedd y presgripsiwn. Roedd Mr A wediâi gynghori i ddychwelyd iâr ysbyty os oedd ei boen yn ddifrifol felly roedd hynnyân opsiwn ganddo yn y cyfamser traâr oedd y gwall gweinyddol yn cael ei gywiro.
⢠nad oedd rheswm clinigol dros fod angen therapi gwrthfiotig ar Mr A ar ôl ei ryddhau.
⢠bod yr ymchwiliadau i gyflwr clefyd melyn Mr A yn briodol ac amserol.
⢠nad oedd y Gastroenterolegydd wedi oedi cyn ei atgyfeirio iâr Adran Oncoleg gan atgyfeirio ar yr un diwrnod ââr diagnosis o ganser ar sail y biopsi.
⢠nad oedd tystiolaeth bod yr Adran Oncoleg wedi cytuno i ymweld â Mr A yn yr ysbyty naâi fod yn rhan oâi gynllun clinigol.
⢠nad oedd tystiolaeth glinigol bod gan Mr A symptomau o sepsis y bustl yn ystod ei arhosiad yn Rhagfyr 2019, ac ar sail tystiolaeth y gwaith papur, roedd Mr a Mrs A wedi eu hysbysu ar 23 Mawrth fod Mr A yn dioddef o sepsis.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro wrth Mrs A am y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad ac i adolygu effaith y camau cywiro a gymrodd eisoes (cyflogi dau feddyg ymgynghorydd ychwanegol) i geisio lleihauâr rhestri aros, ar ddarparu gwasanaeth.