Cwynodd Mr Y fod Cymdeithas Dai Cymru aâr Gorllewin wedi methu ag ymchwilioân iawn iâw gwynion o Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol (âASBâ) yn erbyn ei gymydog, oedd hefyd yn denant iâr Gymdeithas (âMr Xâ) rhwng Mehefin 2018 a Mai 2020.
Casglodd yr Ombwdsmon nad oedd unrhyw dystiolaeth o unrhyw gwynion ffurfiol nac anffurfiol gan Mr Y yn erbyn Mr X rhwng Mehefin 2018 ac Ionawr 2020. Fodd bynnag, casglodd fod diffygion yn y ffordd y deliodd y Gymdeithas â chwynion ASB Mr Y rhwng Ionawr a Mai 2020, sef cyfathrebu gwael (gan gynnwys methu ag ymateb i bryder am ASB a leisiwyd mewn tecst gan Mr Y) a methu â diweddaru Mr Y ar y camau oedd y Gymdeithas yn eu cymryd i ymateb iâw gwynion. Roedd hyn yn groes i ofynion ei Bolisi ASB. Ni allaiâr Ombwdsmon werthuso camauâr Gymdeithas yn erbyn ei Gweithdrefn ASB (oherwydd nad oedd ganddi weithdrefn iawn yn ei lle ar y pryd â dywedodd y Gymdeithas ei bod yn defnyddio canllawiau eraill ar gyfer staff) oedd wedi llesteirio ar alluâr Ombwdsmon i benderfynu a wnaeth y Gymdeithas ymchwilioân iawn i gwynion ASB Mr Y. Casglodd yr Ombwdsmon hefyd, er y gwyddaiâr Gymdeithas faint o effaith oedd y digwyddiadau yn ei gael ar iechyd meddwl Mr Y, na wnaeth ddiweddaru ei chofnodion na holi Mr Y am ei anghenion ac a oedd angen addasiadau rhesymol arno. Roedd y diffygion hyn yn gyfystyr â chamweinyddu gan achosi anghyfiawnder i Mr Y.
Cytunodd y Gymdeithas i ymddiheuro wrth Mr Y a thalu iawndal iddo am y poen meddwl a achoswyd gan y ffordd y deliodd â chžyn Mr Y. Cytunodd hefyd i baratoi a chyhoeddi Gweithdrefn ASB, adolygu ei Pholisi ASB a threfnu hyfforddiant i staff perthnasol ar y Weithdrefn ASB.