Roedd cwyn Mr X iâr Ombwdsmon ynglšn â nifer o faterion yn ymwneud ââi ddiweddar fam, Mrs Y.
Gofal Mrs Y a delio ââr gĹľyn
Cwynodd Mr X am agweddau ar y gofal a dderbyniodd ei ddiweddar fam, Mrs Y, tra oedd yn glaf mewnol yn Uned Hergest rhwng Gorffennaf a Medi 2013. Yn benodol, cwynodd nad oedd y Bwrdd Iechyd:
⢠wedi âsecsiynuâ Mrs Y pan gafodd ei derbyn.
⢠rheoli ei gofal maeth aâi risg o gael codwm yn briodol.
⢠rhoi sylw iâr risg o greu rhwymyn gyda bleinds yr Uned.
⢠delio â chwestiwn diogelu posib o ganlyniad i glais mawr ar dalcen Mrs Y.
⢠rheoliâr broses oâi rhyddhauân briodol oâr Uned i gartref gofal.
Cwynodd Mr X hefyd am y ffordd y deliodd y Bwrdd Iechyd ââi gĹľyn.
Dechreuodd yr Ombwdsmon ymchwilio i gwynion Mr X am ofal Mrs Y aâr ffordd y deliwyd ââi gĹľyn. Yn ystod yr ymchwiliad fe wnaeth ganfod y methiannau canlynol yng ngofal Mrs Y:
⢠Methwyd â dilyn y canllawiau cenedlaethol ar atal diffyg maeth ac nid oedd unrhyw dystiolaeth glir y darparwyd yn briodol ar gyfer anghenion maeth Mrs Y. Roedd y ffurflen diffyg maeth yn anghyflawn, byr ac wediâi hysgrifennuân wael; roedd siartiau bwyd yn anghyflawn; ymddengys na wnaed unrhyw sgrinio maeth ac ni ddefnyddiwyd y canllawiau cenedlaethol (yr offeryn MUST).
⢠Roedd Mrs Y yn dueddol o gael codwm yn ei chartref cyn ei derbyn iâr Uned a dylai fod wedi cael asesiad codwm wrth gael ei derbyn ac ar Ă´l codwm bosib ar 30 Awst. Ni wnaed yr asesiad hwn tan yr 8fed, 9fed aâr 10fed o Fedi, a hyd yn oed wedyn roedd y cofnodion yn fyr ac anghyflawn.
⢠Ni chafodd adroddiad digwyddiad diogelwch ei gwblhau yng nghyswllt clais Mrs Y ar 22 Medi a dylai asesiad codwm mwy trylwyr fod wediâi wneud bryd hynny.
⢠Nid oedd asesiad cynhwysfawr cyffredinol i oleuo cynllun gofal cyffredinol ar gyfer Mrs Y; er bod rhai cynlluniau ar wahân, nid oedd ffocws ar amcanion nac ar ganlyniad unrhyw ymyriadau. Roedd y cofnodion a oedd ar gael yn aml yn anghyflawn a byr heb unrhyw dystiolaeth bod Mrs Y wediâi chynnwys yn y broses o ddatblygu ei chynllun gofal gyda staff y ward.
O ran delio ââr gĹľyn, casglodd yr Ombwdsmon nad oedd y newidiadau iâr staff a oedd yn gyfrifol am ddelio ag ymchwilio i gwynion mewnol wedi eu hegluroân iawn i Mr X gan wneud i Mr X golli ymddiriedaeth yn y broses. Roedd cylch gwaith cyfyngedig yr ymchwiliad allanol a wnaed wedyn yn gyfle a gollwyd iâr pryderon gael eu hymchwilioân annibynnol.
Asesiad o gymhwyster Mrs Y i dderbyn Gofal Iechyd Parhaus (âCHCâ) wediâi ariannu gan y GIG.
Yn 2016 dechreuodd y Bwrdd Iechyd wneud adolygiad Ă´l-weithredol o gymhwyster Mrs Y i dderbyn Gofal Iechyd Parhaus (âCHCâ) wediâi ariannu gan y GIG rhwng 1 Hydref 2013 aâr 19 Mehefin 2016. Roedd Mr X yn anfodlon derbyn casgliad cychwynnol bod Mrs Y yn rhannol gymwys oherwydd ei bryderon bod y broses yn ddiffygiol oherwydd gwallau yng nghofnodion gofal ei fam yn Uned Hergest cyn iddi gael ei rhyddhau i gartref gofal. Yng Ngorffennaf 2019 casglodd Panel Adolygu Annibynnol (âyr IRP Cyntafâ) nad oedd yn gymwys i dderbyn CHC.
Cwynodd Mr X iâr Ombwdsmon fod y broses adolygu Ă´l-weithredol yn annheg oherwydd bod y Bwrdd Iechyd wedi methu â chydymffurfio â rhai agweddau ar y ddogfen ganllawiau berthnasol gan Lywodraeth Cymru, âY Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG (âY Fframwaith Cenedlaetholâ). Yn benodol, dywedodd:
⢠bod y Bwrdd Iechyd wedi gwyro oâr broses ddisgwyliedig drwy gynnal y Panel IRP Cyntaf heb gynnal cyfarfod negodiân gyntaf;
⢠nad oedd dogfennauân cynnwys gwybodaeth oedd yn berthnasol i anghenion gofal ei fam wedi eu cyflwyno iâr IRP Cyntaf;
⢠na chafodd ddigon o gyfle i gyflwyno ei bryderon iâr IRP Cyntaf.
Nodaâr Fframwaith Cenedlaethol ym mharagraff A.5.13 y âdylai’r panel allu gweld unrhyw ddogfennaeth sy’n bodoli eisoes, sy’n berthnasol.â Mewn ymateb i ymholiadauâr Ombwdsmon, cadarnhaodd y Bwrdd Iechyd nad oedd yr IRP Cyntaf wedi ystyried dwy ddogfen yn ymwneud â chyfarfod aml-ddisgyblaeth a gynhaliwyd ar 31 Mai 2016. Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus bod methu â chyflwyno gwybodaeth berthnasol yn awgrymu nad oedd yr IRP Cyntaf wedi cydymffurfioân llawn ââr Fframwaith Cenedlaethol. Er mwyn datrys yr agwedd ar gĹľyn Mr X oedd yn ymwneud â phroses y CHC, cytunodd y Bwrdd Iechyd i chwilioân drylwyr am wybodaeth berthnasol nad oedd wedi cael ei darparu iâr IRP Cyntaf, a threfnu i Fwrdd Iechyd gwahanol gynnull IRP newydd (âyr Ail IRPâ) i ailystyried a oedd Mrs Y yn gymwys i dderbyn CHC.
Yn ystod y broses o baratoiâr trefniadau ar gyfer yr Ail IRP (a aeth yn broses hirfaith a chymhleth), roedd Mr X wedi codi pryderon pellach gydaâr Ombwdsmon fod dogfennau perthnasol ychwanegol yn bodoli nad oedd wedi eu cynnwys i gael eu hystyried gan yr Ail IRP. Roedd hefyd wedi ailadrodd ei bryderon y byddai problemau gydaâr cofnodion gan Uned Hergest yn amharu ar y broses. O ystyried y materion hyn i gyd, roedd yn glir ei fod wedi colli ymddiriedaeth a hyder yng ngalluâr Ail IRP i ddod i gasgliad teg a thrylwyr.
Yng ngoleuni sylwadau Mr X, penderfynodd yr Ombwdsmon ailystyried y trefniadau setlo a gytunwyd. Ar Ă´l asesuâr cofnodion yn ymwneud ag Uned Hergest ymhellach, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedden nhwân rhoi tystiolaeth gwbl ddibynadwy o anghenion gofal Mrs Y cyn dechrauâr cyfnod hawlio, oherwydd eu bod yn ymddangos i fod yn anghyflawn, yn anghyson mewn mannau ac yn ymddangos i fod wedi cael eu newid.
Ar Ă´l ystyried hyn aâr diffyg cofnodion dibynadwy, barnodd yr Ombwdsmon na ellid cynnal Ail IRP yn ddibynadwy. Ar sail amgylchiadau neilltuol ac eithriadol y gĹľyn, ac ar Ă´l ystyried bod Mr X wedi colli ymddiriedaeth a hyder yn y broses yn gyffredinol, aâr amser a oedd wedi pasio gydaâr mater yn parhau i fod yn annatrys, cynigiodd yr Ombwdsmon fod iawndal ariannol yn cael ei dalu i setloâr agwedd hon ar y gĹľyn.
Y Setliad
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud y canlynol i setlo pob agwedd ar gĹľyn Mr X:
1) Talu swm i Mr X a fyddai wedi bod yn daladwy iddo pe baiâr broses o ariannuâr CHC wedi cael ei chynnal yn briodol a chasgliad wediâi gyrraedd bod gofal Mrs Y yn 40% cymwys i gael ei ariannu.
2) Talu swm o ÂŁ2,500 i Mr X i gydnabod yr anghyfiawnder a achoswyd o ganlyniad iâr methiannau yn y gofal aâr driniaeth a dderbyniodd Mrs Y.
3) Talu swm o ÂŁ2,500 i Mr X i gydnabod y ffordd wael y deliwyd ââi gĹľyn aâr anghyfiawnder a achosodd hynny iddo.
4) Bod y Prif Weithredwr yn ymddiheuroân llawn wrth Mr X am y methiannau hyn aâr anghyfiawnder a achoswyd iddo fo aâi deulu.
5) Adolyguâr canllawiau cenedlaethol ar sgrinio diffyg maeth, a sicrhau bod ei bolisi lleol yn cyd-fynd ââr canllawiau hyn. Os nad oes polisi lleol yn bodoli, bod y Bwrdd Iechyd yn gweithredu polisi newydd syân cyd-fynd ââr canllawiau.
6) Adolygu ei broses ar gyfer asesuâr risg o godwm i sicrhau ei bod yn cyd-fynd â chanllawiau cenedlaethol.
7) Adolygu ei safonau mewn cynllunio gofal a sicrhau bod ganddo system oâr fath yn ei lle.
8) Adolygu ei broses o gynhyrchu adroddiadau digwyddiadau diogelwch cleifion a sicrhau bod staff yn cofnodi digwyddiadau ar ei âsystem digwyddiadauâ.
9) Rhoi cyfle i Mr X ymgysylltu ag aelod priodol o staff syân gyfrifol am ddarparu gofal dementia i gleifion oedrannus er mwyn rhannu gwersi a ddysgwyd oâr cwynion i wella gwasanaethau yn y dyfodol.
Roedd y camau gweithredu yn 1-4 uchod iâw cwblhau o fewn tair wythnos iâr Bwrdd Iechyd yn derbyn cadarnhad gan Mr X ei fod yn derbyn y setliad, aâr gweithredu yn 9 iâw gwblhau o fewn deufis iâr cadarnhad hwnnw. Roedd y camau gweithredu yn 5-8 iâw cwblhau o fewn pedwar mis i ddyddiad y setliad.
Barnodd yr Ombwdsmon fod y camau y cytunodd y Bwrdd Iechyd iâw cymryd yn rhesymol a bod y mater felly wediâi setlo.