Cafodd yr Ombwdsmon gĹľyn bod Cyn Aelod o Gyngor Tref Doc Penfro (ây Cyngorâ) wedi methu â chydymffurfio ââr Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodauâr Cyngor. Honnwyd bod yr Cyn Aelod wedi cyhoeddi neges ar y llwyfan cyfryngau cymdeithasol Facebook, y gellid ei ystyried yn hiliol ac  y gallai fod ââr potensial i niweidio enw daâr Cyngor.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod y Cyn Aelod wedi âhoffiâ a ârhannuâ y neges ar Facebook, a bod oedi byr wedi bod cyn iddo dynnuâr neges i lawr. Canfuâr ymchwiliad fod y Cyn Aelod wedi camarwain papur newydd lleol drwy ddweud bod ei gyfrif Facebook wedi cael ei âhacioâ, ond ei fod wedi cywiro hyn o fewn 48 awr. Canfu hefyd fod y Cyn Aelod wedi ymddiswyddo fel aelod oâr Cyngor aâi fod wedi ei gyfweld gan Yr Heddlu, ac na chymerwyd unrhyw gamau pellach.
Dywedodd y Cyn Aelod nad oedd wedi sylwi ar yr islais hiliol pan rannodd y neges, ac nad oedd yn berson hiliol. Ymddiheurodd am unrhyw drosedd y gallai fod wediâi achosi. Derbyniodd y Cyn Aelod ei fod wedi cael cyfle i fynychu hyfforddiant Cod Ymddygiad a fyddai wedi cynnwys hyfforddiant ar faterion cydraddoldeb. Nid oedd wedi bod yn bresennol, yn rhannol oherwydd ei anabledd, ond derbyniodd nad oedd wedi gofyn am hyfforddiant mewn modd a oedd yn fwy hwylus iddo.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y gallaiâr Cyn Aelod fod wedi torri Cod Ymddygiad y Cyngor, yn benodol, paragraffau 4(a) a 4(b), gan y gallai fod wedi methu â rhoi sylw dyledus iâr egwyddor o gyfle cyfartal i bawb wrth gyflawni ei ddyletswyddau, ac efallai na fyddai wedi dangos parch ac ystyriaeth ddyledus i eraill.  Canfuâr Ombwdsmon hefyd y byddaiân rhesymol ystyried gweithredoedd y Cyn Aelod fel ymddygiad a allai ddwyn anfri ar swydd yr aelod, neu ar y Cyngor ei hun, a allai arwain at dorri paragraff 6(1)(a) oâr Cod Ymddygiad.
Penderfynodd Pwyllgor Safonau Cyngor Sir Penfro fod y Cyn Aelod wedi torri paragraffau 4(b) a 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad. Rhoddwyd cerydd iâr Cyn Aelod.