Roedd Aelod (âyr Aelodâ) o Gyngor Tref Saltney (ây Cyngorâ) a oedd wedi ei gyfeirio ei hun at yr Ombwdsmon am fod yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (âyr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyrâ) wedi cyhoeddiân gyhoeddus orchymyn anghymhwyso yn ymwneud ââi gyflogaeth flaenorol fel gweithiwr paragyfreithiol.
Buâr Ombwdsmon yn ymchwilio i weld a allai ymddygiad yr Aelod fod yn groes i baragraff 6(1)(a) oâr Cod Ymddygiad (ây Codâ).
Cafodd yr Ombwdsmon gopïau o ddogfennau penderfyniad yr SRA a chanfu ei fod wedi dod i gasgliad o anonestrwydd yn erbyn yr Aelod ar y sail bod yr Aelod wedi rhoi gwybodaeth ffug i gleientiaid am hynt eu hachosion. Nid oedd unrhyw awgrym o unrhyw dramgwydd ariannol nac ymddygiad troseddol ar ran yr Aelod.
Canfuâr Ombwdsmon, er y gallaiâr Aelod fod wedi dwyn anfri personol arnoâi hun o ganlyniad i hysbysiad o benderfyniad cyhoeddus yr SRA, fod rĂ´l yr Aelod fel gweithiwr paragyfreithiol yn gwbl gysylltiedig ââi fywyd preifat ac nad oedd ganddo gysylltiad ââr Cyngor naâi rĂ´l fel Cynghorydd. At hynny, yr oedd y canfyddiad o anonestrwydd yr SRA yn ymwneud ag analluâr Aelod i fwrw ymlaen ââi waith. Oâr herwydd, nid oedd yr Ombwdsmon oâr farn bod gweithredoedd yr Aelod yn gyfystyr â thorri paragraff 6(1)(a) oâr Cod.