Cafodd yr Ombwdsmon gĹľyn wedi ei hunangyfeirio bod Aelod (âyr Aelodâ) o Gyngor Castell-nedd Port Talbot (ây Cyngorâ) wedi torriâr Cod Ymddygiad (ây Codâ) mewn perthynas â sylwadau a wnaeth yn ystod cyfarfod preifat oâr Blaid Lafur yn ystod mis Hydref 2019. Cafodd y sylwadau eu recordioân gyfrinachol aâu cyhoeddiân ddiweddarach ar y cyfryngau cymdeithasol ar 5 Mawrth 2021.
Dechreuodd yr Ombwdsmon ymchwilio i rai oâr sylwadau a wnaed gan ystyried a oedd yr Aelod wedi torri paragraffau canlynol y Cod:
- 6(1)(a) â rhaid i aelodau beidio ag ymddwyn mewn modd y gellid yn rhesymol ystyried ei fod yn dwyn anfri ar eu swydd neu eu hawdurdod.
- 7(b)(v) â ni chaiff aelodau ddefnyddio nac awdurdodi eraill i ddefnyddio adnoddau eu hawdurdod yn amhriodol at ddibenion gwleidyddol.
Yn y recordiad, soniodd yr Aelod am ad-drefnu ysgolion. Canfuâr ymchwiliad ei bod yn ymddangos bod sylwadau a wnaed am adleoli ysgol benodol wedi cael eu gwneud yng nghyd-destun adroddiad a oedd yn nodi bod yr ysgol mewn perygl o gael ei heffeithio gan dirlithriad. Roedd y sylwadauân seiliedig ar gyngor proffesiynol annibynnol ac felly nid oeddent yn debygol o arwain at dorriâr Cod.
Gwnaeth yr Aelod sylwadau cyffredinol hefyd am gynlluniau ad-drefnu ysgolion y Cyngor. Er bod yr Aelod wedi mynegi ei safbwyntiau rhagarweiniol ar y mater yn glir, nid oedd yn ymddangos ei fod yn diystyruâr posibilrwydd o opsiynau eraill. Nid oedd ychwaith yn nodi na fyddaiân fodlon ystyried cyngor swyddogion priodol. Oherwydd hynny, nid oedd y sylwadauân gyfystyr â thorriâr Cod.
Yn ystod y recordiad, awgrymodd yr Aelod y byddaiân gwrthod cyllid ar gyfer cynnig a gefnogir gan blaid wleidyddol arall o blaid cynnig syân groes iâr Blaid Lafur ac, wrth wneud hynny, cyfeiriodd at ei ymwneud â thrwsio ffordd y fynwent yn Ystalyfera. GrĹľp Llywio Rhaglen Gyfalaf y Cyngor wnaeth y penderfyniad i ariannuâr gwaith ar y ffordd. Er bod yr Aelod wedi cael copi o ohebiaeth, nid oedd yn rhan oâr penderfyniad i ariannuâr gwaith. Oâr herwydd, daeth yr Ombwdsmon iâr casgliad nad oedd tystiolaeth i awgrymu bod yr Aelod wedi camddefnyddio ei safle mewn perthynas ââr mater hwn ac nad oedd tystiolaeth o dorriâr Cod.
Cyfeiriodd yr Aelod hefyd at âgadw aelod arall allanâ wrth gyflwyno rhaglen adfywio yr oedd yr aelod hwnnw wedi bod yn ymgyrchu yn ei chylch ers sawl blwyddyn. Ni chanfuâr ymchwiliad unrhyw dystiolaeth o unrhyw gamau bwriadol gan yr Aelod i âgadw allanâ, nac eithrioâr aelod arall oâr rhaglen. Roedd methiant i roi gwybod iâr aelod am ddatblygiadau, fodd bynnag, nid cyfrifoldeb yr Aelod oedd gwneud hynny a, beth bynnag, un o swyddogion y Cyngor oedd yn bennaf gyfrifol am yr esgeulustod hwn. Nid oedd unrhyw dystiolaeth bod yr Aelod wedi torriâr Cod.
Hysbyswyd yr Aelod na chanfuwyd unrhyw dystiolaeth o dorriâr Cod yn ystod yr ymchwiliad.