Cafodd yr Ombwdsmon gĹľyn bod Aelod (âyr Aelodâ) o Gyngor Tref Bodelwyddan (ây Cyngorâ) wedi torriâr Cod Ymddygiad (ây Codâ) pan oedd yn rhannu delweddau teledu cylch cyfyng cyfrinachol ar dudalen Facebook y Cyngor mewn post a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021.
Ymchwiliodd yr Ombwdsmon i weld a allai gweithredoedd yr Aelod fod wedi arwain at dorri paragraffau 5(a) a 6(1)(a) o’r Cod.
Cafodd yr Ombwdsmon wybodaeth berthnasol gan y Cyngor ac ystyriodd sylwadauâr Aelod. Canfuâr Ombwdsmon fod yr Aelod wedi cyhoeddi delwedd aneglur yn bennaf o ffilm CCTV y Cyngor ar dudalen Facebook y Cyngor. Gan y byddaiân rhesymol ystyried bod y delweddau teledu cylch cyfyng yn gyfrinachol ac na ddylid eu rhannuân gyhoeddus fel hyn, roedd yr Ombwdsmon oâr farn y gallai gweithredoedd yr Aelod fod yn gyfystyr â thorri paragraffau 5(a) a 6(1)(a) oâr Cod.
Fodd bynnag, nid oedd y Cyngor wedi darparu unrhyw hyfforddiant ar y Cod, y defnydd oâi gyfryngau cymdeithasol, naâr defnydd oâi CCTV iâr Aelod. Yn ogystal, nid oedd gan y Cyngor unrhyw bolisĂŻau na gweithdrefnau mewn perthynas ââr defnydd oâi gyfryngau cymdeithasol naâr defnydd oâi deledu cylch cyfyng. Roedd yr Aelod hefyd wedi ymddiheuro iâw cyd-aelodau oâr Cyngor ac wedi dileuâr ddelwedd yn gyflym pan ofynnwyd iddo wneud hynny. Felly, nid oedd yr Ombwdsmon oâr farn bod angen cymryd unrhyw gamau pellach. Fodd bynnag, awgrymodd fod yr Aelod yn ceisio hyfforddiant ar y Cod cyn gynted â phosib ac y dylaiâr Cyngor ystyried yn ddi-oed a oes ganddo bolisĂŻau a/neu weithdrefnau deledu cylch cyfyng, diogelu data a chyfryngau cymdeithasol priodol ar waith.