Cafodd yr Ombwdsmon gĹľyn gan un o weithwyr Cyngor Cymuned Sili a Larnog (ây Cyngorâ) nad oedd Aelod (âyr Aelodâ) oâr Cyngor wedi cydymffurfio ââr Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau.
Honnwyd, yn ystod digwyddiad ar gae chwarae Cyngor yn ymwneud ag offer y Cyngor, bod yr Aelod wedi cam-drin a bwlioâr gweithiwr ar lafar ac wedi cam-drin a chythruddo tad y gweithiwr.
Daeth yr Ombwdsmon iâr casgliad bod yr Aelod yn defnyddio iaith sarhaus a dilornus tuag at y gweithiwr o flaen aelodau eraill a thad y gweithiwr, mewn ymgais i sarhau, bychanu a thanseilioâr gweithiwr. Daeth yr Ombwdsmon iâr casgliad bod gweithredoedd yr Aelod yn awgrymu bwlio a chythruddo.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y gallai ymddygiad yr Aelod fod wedi torri Cod Ymddygiad y Cyngor, yn benodol 4(b) a 4(c) drwy fethu dangos parch ac ystyriaeth tuag at eraill, a pheidio ag ymddwyn mewn ffordd syân achosi bwlio. Canfuâr Ombwdsmon hefyd y gallai ymddygiad yr Aelod gael ei ystyried yn ymddygiad a allai ddwyn anfri ar swydd Aelod oâr Cyngor ac felly ei fod hefyd yn awgrymu torri 6(1)(a) oâr Cod Ymddygiad.
Cyfeiriodd yr Ombwdsmon ei adroddiad ar yr ymchwiliad at Swyddog Monitro Cyngor Bro Morgannwg iâw ystyried gan ei Bwyllgor Safonau.
Ymddiswyddodd yr Aelod ychydig cyn Gwrandawiad y Pwyllgor Safonau. Penderfynodd Pwyllgor Safonau Cyngor Bro Morgannwg fod y Cyn Aelod wedi torri paragraffau 4(b), 4(c) a 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad a bod y Cyn Aelod wedi cael cerydd.