Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty : Brwdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg – PSOW Cymraeg

Report Date

22/01/2022

Subject

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Case Reference Number

202100931

Outcome

Setliadau gwirfoddol

Cwynodd Ms A am y gofal a dderbyniodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Dywedodd fod y Bwrdd Iechyd wedi gadael canwla (tiwb tenau sy’n cael ei roi i wythĂŻen i alluogi hylif a meddyginiaeth i fynd i mewn i’r llif gwaed yn uniongyrchol) yn ei braich chwith yn hirach nag oedd angen. Dywedodd ei fod wedi methu â thynnu’r caniwla yn gyfan gwbl. Dywedodd hefyd ei fod wedi cymryd gormod o amser i fynd i’r afael â’i phryderon am y boen yn ei braich chwith ar Ă´l tynnu’r caniwla.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi gadael darn o ganwla ym mraich chwith Ms A am sawl diwrnod er gwaethaf safonau clinigol perthnasol (“y Safonau”) a phryder Ms A ynglŷn â’i chanwla. Canfu hefyd fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â chwblhau dogfennau a oedd yn ymwneud â chanwla Ms A yn iawn. Nododd fod gweithiwr y Bwrdd Iechyd wedi nodi bod Ms A wedi gorfod cael llawdriniaeth bellach oherwydd y methiannau a oedd yn gysylltiedig â’r ffordd y gwnaeth y Bwrdd Iechyd reoli ei chanwla. Roedd hefyd yn bryderus nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ystyried rhwymedigaeth gymhwyso (niwed a achosir gan, neu mewn cysylltiad â’r gofal a ddarperir) yn ddigonol pan ymchwiliodd i bryderon Ms A ynglŷn â’i chanwla. Roedd o’ farn fod Ms A wedi dioddef anghyfiawnder, o ran poen, trallod ac anghyfleustra, oherwydd y methiannau a nodwyd.

Penderfynodd yr Ombwdsmon y byddai’n briodol ceisio setlo cwyn Ms A. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Ms A i ymddiheuro am y ffordd annigonol y deliodd â’r gĹľyn ac i gadarnhau y byddai’n ystyried ei phryderon, ynglšn â’i gofal yn ymwneud â’r canwla, mewn ffordd sy’n debyg i’r trefniadau unioni a amlinellwyd yn y rheoliadau perthnasol wrth ymdrin â chwynion. Cytunodd hefyd i ystyried pryderon Ms A yn y ffordd honno ac i rannu’r gwersi a ddysgwyd yn sgil y canwla gyda’r holl staff perthnasol ac i’w hatgoffa o’r Safonau. Ystyriodd yr Ombwdsmon fod y camau y cytunodd y Bwrdd Iechyd i’w cymryd yn rhesymol. Felly, ystyriodd fod cwyn Ms A wedi’i setlo.