Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Cynllunio a Rheoli Adeiladu : Cyngor Sir y Fflint – PSOW Cymraeg

Report Date

07/01/2022

Subject

Cynllunio a Rheoli Adeiladu

Case Reference Number

202105391

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod y Cyngor wedi methu â rhoi ymateb cam dau i’w gŵyn.

Wrth ystyried y gŵyn, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus am yr oedi a bod Mr X wedi wynebu anghyfleustra oherwydd methiant y Cyngor i ymateb. Yn lle cynnal ymchwiliad, gofynnodd i’r Cyngor gwblhau’r canlynol er mwyn setlo cwyn Mr X:
a) Ymddiheuro i Mr X am yr oedi wrth ymateb i’w gŵyn
b) Rhoi ymateb cwyn cam 2 i Mr X
c) Rhoi taliad ariannol o £50 i Mr X am yr oedi