Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Materion cynllunio arall : Cyngor Sir y Fflint – PSOW Cymraeg

Report Date

04/01/2022

Subject

Materion cynllunio arall

Case Reference Number

202105904

Outcome

Datrys yn gynnar

Dywedodd Mrs X fod y Cyngor wedi trefnu i syrfëwr o’r Swyddfa Brisio ymweld â’i heiddo i werthuso effaith heulfan ei chymydog ar werth ei thÅ·. Dywedodd, er ei bod wedi bod mewn cysylltiad â’r Cyngor ym mis Medi, ni dderbyniodd ddiweddariad pendant ac mae’r mater wedi bod yn mynd rhagddo ers mis Mawrth.
Canfu’r Ombwdsmon y bu oedi ar ran y Cyngor wrth roi diweddariad pendant i Mrs X.

Roedd yr Ombwdsmon wedi gofyn i’r Cyngor roi diweddariad pendant ac ymddiheuriad am yr oedi a chytunodd y Cyngor i wneud hynny. Cytunodd hefyd i ddarparu amserlen bendant ac ymrwymiad o ran pryd y byddai’r mater yn cael ei ddatrys, gan gynnwys amserlen debygol ar gyfer gwaith y syrfëwr. Cytunodd y Cyngor i roi’r wybodaeth hon i Mrs X o fewn 20 diwrnod gwaith.