Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy’r tŷ. Ffenestri dwbl) : Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam – PSOW Cymraeg

Report Date

22/02/2022

Subject

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Case Reference Number

202107020

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X fod y Cyngor wedi methu â gwneud a chwblhau’r gwaith trwsio y mae hi wedi rhoi gwybod amdano ers blynyddoedd lawer.

Cadarnhaodd y Cyngor mai’r rheswm dros yr oedi yn y lle cyntaf oedd problemau ag argaeledd contractwyr cyn pandemig COVID-19; yna, ar ben hynny, roedd y pandemig wedi cael effaith enfawr ar y Cyngor o ran cyflawni ei wasanaethau.

Mae’r Cyngor wedi cytuno â’r Ombwdsmon i ddarparu amserlen i Ms X o ddyddiadau dechrau a chwblhau ar gyfer pob darn o waith sy’n weddill, ac i gwblhau’r holl waith erbyn 10 Mai 2022.