Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu : Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – PSOW Cymraeg

Report Date

24/02/2022

Subject

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Case Reference Number

202107179

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X wrth y Bwrdd Iechyd ym mis Gorffennaf 2021 ynghylch y gofal a’r driniaeth a gafodd ei ddiweddar wraig. Adeg cysylltu â’r Ombwdsmon ym mis Ionawr 2022, nid oedd Mr X wedi cael ymateb i’w gŵyn o hyd.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd gan ei fod yn pryderu ynghylch yr amser yr oedd yn ei gymryd i gwblhau ei ymchwiliad. Dywedodd fod y mater yn gymhleth ac yn cwmpasu mwy na 6 gwasanaeth mewn 2 fwrdd iechyd gwahanol. Roedd y cymhlethdod, ynghyd â’r pwysau ychwanegol yr oedd y byrddau iechyd yn ei wynebu, yn golygu na allai gwblhau ei ymchwiliad fel y byddai wedi disgwyl.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gwblhau’r mater a chyhoeddi ei ymateb Gweithio i Wella erbyn 8 Ebrill 2022 fan bellaf.