Cwynodd Mrs X fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â gwneud diagnosis o sarcoma ei gĹľr (âMr Xâ) (sarcomas yw grĹľp o ganserau prin syân effeithio ar y meinweoedd syân cysylltu, yn cynnal ac yn amgylchynu organau a strwythurau eraill y corff) yn ystod ei ymweliad ââr Adran Achosion Brys ar 2 Ionawr 2018, wedi rhyddhau Mr X yn amhriodol ar 14 Chwefror, wedi methu gweithredu atgyfeiriad Mr X yn briodol ar Ă´l cynnal biopsĂŻau ar 14 Chwefror, wedi methu cyflymu asesiad ffisiotherapi Mr X ac wedi methu ymateb iâw chĹľyn mewn modd amserol.
Canfuâr Ombwdsmon fod y modd y rheolwyd Mr X yn yr Adran Achosion Brys yn rhesymol ond y gellid bod wedi gwneud mwy i asesuâr tebygolrwydd bod ei Lymffoma Hodgkin wedi dod iâr amlwg eto. Canfu nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi dilyn ei bolisi rhyddhau ei hun pan ddychwelodd Mr X adref a dylid bod wedi gwneud mwy i gynnwys Mrs X yn y gwaith cynllunio. Canfuâr Ombwdsmon hefyd fod cadw cofnodion gwael yn golygu ei bod yn amhosibl cysoni cofnod Mrs X o driniaeth ffisiotherapi ei gĹľr ââr hyn a ddywedwyd yn y cofnodion. Cafodd yr agweddau hyn ar y gĹľyn eu cadarnhau. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon gĹľyn Mrs X ynghylch atgyfeiriad Mr X ar Ă´l biopsi gan ei fod yn fodlon bod y Bwrdd Iechyd wedi cymryd camau priodol i sicrhau bod yr atgyfeiriad yn cael blaenoriaeth fel mater brys. Yn olaf, roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod cwyn Mrs X yn gymhleth a bod pandemig Covid-19 wedi cael effaith niweidiol ar y gallu i ddelio â chwynion, ac na ellid bod wedi rhagweld hynnyân rhesymol. Ni chafodd yr agwedd hon ar y gĹľyn ei chadarnhau.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i weithredu argymhellion yr Ombwdsmon o fewn 1 mis, gan ymddiheuro i Mrs X am y methiannau a nodwyd, gwneud taliad iawndal o ÂŁ250 am yr ansicrwydd aâr gofid a achoswyd, ac atgoffaâr staff o bwysigrwydd ystyried achosion o Lymffoma Hodgkin mewn cleifion syân gwella ers diagnosis o ganser. O fewn 3 mis, dylaiâr Bwrdd Iechyd rannuâr adroddiad â staff clinigol perthnasol a chynnal archwiliad o gofnodion ffisiotherapi i fonitro cywirdeb.