Roedd cwyn Mrs A yn erbyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (ây Bwrdd Iechydâ) yn canolbwyntio ar y cwestiwn a oedd Adran Achosion Brys Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, yn ystod cyfnodau o bwysau, wedi rhoi addasiadau rhesymol ar waith ar gyfer unigolion ag anableddau dysgu, awtistiaeth ac epilepsi, yn enwedig lle maent yn arddangos ymddygiad heriol.
Roedd cwyn Mrs A yn erbyn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
yn ymwneud â:
⢠i ba raddau roedd wedi gwneud addasiadau rhesymol ar gyfer unigolion ag anableddau dysgu, awtistiaeth ac epilepsi o ran ei wasanaeth parafeddygol, yn enwedig o ran asesu poen a chyfathrebu.
⢠cadw cofnodion gan y parafeddygon a ddaeth i gartref Mrs A ar 23 Chwefror 2020, yn enwedig o ran yr asesiad galluedd meddyliol a rhyddhau ei mab o ofal.
Rhoddodd yr Ombwdsmon y gorau iâw ymchwiliad i gĹľyn Mrs A ynghylch presenoldeb y parafeddygon yn ei chartref.
Fodd bynnag, fel rhan oâr setliad, cytunwyd y byddai uwch swyddogion yn y Bwrdd Iechyd ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cwrdd i edrych ar daith cleifion syân byw gydag anableddau dysgu/awtistiaeth ac anghenion cymhleth, fel mab Mrs A, drwy wahanol gamau eu gofal i gleifion, o ofal sylfaenol hyd at ofal eilaidd. Byddaiâr cyfarfod yn nodi ffyrdd o wella taith cleifion drwy addasiadau rhesymol a thrwy ddefnyddio technoleg a helpu i ddatblygu cynlluniau gweithredu i fwrw ymlaen ag unrhyw gynllun. Roedd y setliad hefyd yn nodi ffyrdd o ymgysylltu â Mrs A ac y byddai adborth yn cael ei roi i Mrs A a swyddfaâr Ombwdsmon ynghylch canlyniad y cyfarfod. Cafodd y Bwrdd Iechyd ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru 3 mis i gyflawni’r setliad.