Cwynodd Mrs G am ei thriniaeth ar gyfer canser yr ofari rhwng mis Chwefror a mis Hydref 2020, yn benodol:
⢠oedi wrth drafod ei phrognosis gyda hi ac wedyn methu trafod dewisiadau o ran triniaeth yn llawn
⢠gwybodaeth anghywir a roddwyd iddi ynghylch addasrwydd gwahanol gyffuriau
⢠llenwi a chyflwyno ffurflen Gais Cyllido Cleifion Annibynnol (âIPFRâ).
Canfuâr Ombwdsmon fod yr apwyntiad cyn-cemotherapi a llenwiâr ffurflen ganiatâd yn gyfle a gollwyd i archwilio dealltwriaeth Mrs G oâi chyflwr aâi phrognosis. Canfu fod rhywfaint o gamgyfathrebu neu ddryswch wedi digwydd ynghylch addasrwydd gwahanol gyffuriau i Mrs G aâi bod wedi ei harwain at ddisgwyliadau afrealistig oâr driniaeth y gallai ei derbyn. Daeth yr Ombwdsmon iâr casgliad nad oedd digon o ystyriaeth wedi ei rhoi i gyflwynoâr IPFR gydaâr Ymgynghorydd, dim ond âcopĂŻo a gludoâ gwybodaeth a ddarparwyd gan Mrs G, gan arwain at gais a oedd yn ddryslyd ac nid ar gyfer y feddyginiaeth fwyaf priodol. Dyfarnodd fod y gĹľyn wedi ei chyfiawnhau.
Argymhellodd yr Ombwdsmon fod yr Ymddiriedolaeth yn ymddiheuro i Mrs G ac yn ystyried adolygu ei ffurflenni cydsynio i gemotherapi; gwahoddodd hefyd yr Ymgynghorydd i ystyried ei gyfathrebu â chleifion ynghylch prognosis.