Cwynodd Mrs P fod y Cyngor wedi methu â chymryd camau priodol i fynd iâr afael â chwynion am ymddygiad gwrthgymdeithasol gan Mr A, a oedd yn byw drws nesaf i eiddo rhent yr oedd yn berchen arno yn y Bala. Roedd tenantiaeth Mr A yn yr eiddo cyfagos wedi ei threfnu drwy gynllun prydlesu preifat y Cyngor. Dywedodd ei bod hi aâi thenant (âMs Bâ) wedi cwyno dro ar Ă´l tro am dros 8 mis a bod Ms B wedi darparu tystiolaeth helaeth oâr ymddygiad gwrthgymdeithasol, ond bod ymatebion y Cyngor yn ysbeidiol ac anghyson.
Ar Ă´l asesuâr dystiolaeth a oedd ar gael, roedd yr Ombwdsmon yn poeni bod y Cyngor yn aml wedi methu ag ymateb yn brydlon i adroddiadau Mrs P a Ms B am ymddygiad gwrthgymdeithasol honedig, hyd yn oed ar Ă´l i Mrs P wneud cwyn ffurfiol. Roedd y Cyngor hefyd wedi colli cyfle i ddarparu un ymateb cwynion corfforaethol yn nodi mewn un man safbwyntiauâr gwahanol adrannau a oedd yn gysylltiedig. Maeân bosib bod hyn wedi egluroâr angen i Ms B ddarparu tystiolaeth newydd er mwyn iâr Cyngor adnewyddu ymchwiliadau i niwsans statudol posib.
Cysylltodd yr Ombwdsmon ââr Cyngor mewn perthynas ââr pryderon cyfathrebu a nodwyd uchod. Er mwyn setloâr gĹľyn, cytunodd y Cyngor i ymddiheuro i Mrs P a Ms B o fewn 1 mis am y methiannau cyfathrebu a nodwyd gan yr Ombwdsmon a thalu ÂŁ125 yr un iddynt mewn perthynas ag amser a thrafferth cysylltiedig.