Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty : Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – PSOW Cymraeg

Report Date

06/05/2022

Subject

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Case Reference Number

202101075

Outcome

Ni Chadarnhawyd

Ar 27 Ionawr 2020 derbyniwyd Mrs i Ysbyty Cyffredinol Llwyn Helyg gyda thrymder yn ei brest, a chafodd ddiagnosis o angina ansefydlog. Ddau ddiwrnod yn ddiweddarach, cafodd Mrs X ei gweld gan gardiolegydd ymgynghorol a nododd fod y boen yn ei brest yn cael ei leddfu gan nitradau. Trosglwyddwyd Mrs X i’r Uned Gofal Coronaidd ar 30 Ionawr. Ar 31 Ionawr trefnwyd i Mrs X gael archwiliad delweddu darlifiad myocardaidd (“MPS”). Dywedodd y TĂŽm Coronaidd yn Ysbyty Treforys fod Mrs X wedi cael ei thrin am angina. Ar 3 Chwefror dangosodd ECG Mrs X newidiadau acĂ­wt, ond roedd yn dal yn fwriad iddi gael MPS. Drannoeth, gwrthododd yr Adran Radioleg MPS Mrs X gan iddi gael yr un prawf 6 mis yn gynharach. Rhyddhawyd Mrs X ar 5 Chwefror. Cwynodd Mrs X ynglšn ag a oedd ei thriniaeth a’i rhyddhau fel hyn yn rhesymol.

Canfu’r Ombwdsmon:
• Er na welwyd Mrs X cyn pen 24 awr gan gardiolegydd ac y dylai fod wedi cael ei symud i ward arbenigol yn gynharach, na chafodd hyn ddim effaith ar ei thriniaeth ac nid oedd dim gwelyau ar gael ar y ward arbenigol.
• Gan fod Mrs X wedi cael yr MPS 6 mis yn gynharach, roedd yn rhesymol peidio ag ailadrodd y broses.
• Ni ddynodwyd angiogram ar gyfer Mrs X.
• Roedd yn rhesymol rhyddhau Mrs X.

Yn unol â hyn, ni chadarnhawyd y gžyn.