Cwynodd Mrs B fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ystyried yn briodol ei phryderon ynglšn â meddyginiaeth a roddwyd ar bresgripsiwn iâw Modryb, Mrs C, pan gafodd ei derbyn iâr ysbyty ym mis Ebrill 2020. Rhoddwyd morffin ar bresgripsiwn i Mrs C ei bod ganddi alergedd iddo, ynghyd â thawelydd. Gofynnodd Mrs B a oedd hyn yn briodol ac ystyried bod yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (âyr MHRAâ) yn argymell bod yn eithriadol o ofalus wrth presgripsiynuâr mathau hynny o feddyginiaeth gydaâi gilydd.
Canfuâr Ombwdsmon fod ymateb y Bwrdd Iechyd iâr gĹľyn yn wallus ac yn anghyson. Dywedai nad oedd alergedd Mrs C i forffin wedi cael ei nodi ond roedd yna dystiolaeth ei fod wedi cael ei nodi gan un oâr Nyrsys Brysbennu. Dywedai hefyd i ddechrau na roddwyd morffin i Mrs C, ond yn ddiweddarach roedd yn cadarnhau y rhoddwyd 2 ddogn o Oramorph (morffin hylifol) heb ddim effaith niweidiol. Hefyd, ni chafwyd ymateb iâr pryder y gallaiâr presgripsiynau fod wedi mynd yn groes i ganllawiauâr MHRA.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Mrs B cyn pen 1 mis i ymddiheuro am y trefniadau gwael ar gyfer delio â chwynion, cynnig ÂŁ250 am ei hamser aâi thrafferth yn mynd ar drywydd y gĹľyn a rhoi iddi sicrhad bod gwersi wedi cael eu dysgu. Cytunodd hefyd i roi sylwân benodol iâr gwrthddywediadau yn yr ymateb iâr gĹľyn yn ogystal ag i oblygiadau clinigol a pherthnasedd canllawiau presgripsiynuâr MHRA aâr 2 ddogn o Oramorph a roddwyd i Mrs C er bod ganddi alergedd i forffin.