Cwynodd Miss A am y gofal a ddarparwyd iâw mam ar gyfer ei hiechyd meddwl, yn benodol na ddarparwyd cydlynydd gofal, na chynigiwyd triniaeth briodol a bod ei meddyginiaeth wedi cael ei chamweinyddu. Dywedodd hefyd fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â chyfathrebuân effeithiol gyda hi aâi mam, ac wedi methu â rhoi sylw iâr pryderon a gododd gydaâr Gwasanaeth Cyswllt Cleifion (âPALSâ).
Nododd yr Ombwdsmon yr ymdriniwyd â chwynion Miss A yn aml drwy PALS gan sicrhau bod apwyntiadau ac adolygiadau a addewir yn cael eu darparu, neu ofyn am alwadau ffĂ´n yn Ă´l gan y maes gwasanaeth. Fodd bynnag, ni wnaeth y Bwrdd Iechyd gydnabod patrwm ei chwynion, a oedd i gyd yn debyg, yn gorgyffwrdd ac yn ymwneud ââr un materion dros gyfnod estynedig o amser. Canfuâr Ombwdsmon y dylid bod wedi edrych yn fanylach ar hyn ac y dylai cwynion Miss A fod wedi cael eu hystyried drwy broses gwynion ffurfiol y Bwrdd Iechyd i sicrhau bod pryderon Miss A yn cael y sylw priodol, aâi bod yn cael ei hysbysu o ganlyniadau unrhyw gamau a gymerwyd i roi sylw iddynt.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gysylltu â Miss A cyn pen 1 mis, i ymddiheuro na chafodd ei phryderon sylw, cadarnhauâr materion parhaus a oedd heb gael eu datrys, ac i ddechrau ymchwiliad ffurfiol iddynt. Cytunodd hefyd i gwblhauâr ymchwiliad i bryderon Miss A o fewn yr amserlenni perthnasol a nodir yn y broses gwynion ffurfiol.