Notice: [ Timber ] get_context is deprecated since Timber version 2.0.0! Use context instead. in /var/www/vhosts/psow.spindogs-dev7.co.uk/dev/vendor/timber/timber/src/Helper.php on line 462
Iechyd : Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan – PSOW Cymraeg

Report Date

25/05/2022

Subject

Iechyd

Case Reference Number

202200594

Outcome

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i’w chwyn am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w gŵr; cyflwynodd y gŵyn ar 23 Gorffennaf 2021.

Wrth ystyried y gŵyn, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus na chafodd Mrs X ymateb i’w chwyn a bod y Bwrdd Iechyd wedi awgrymu bod cyfarfod yn cael ei gynnal yn lle ymateb ysgrifenedig, yn groes i reoliadau Gweithio i Wella (“GiW”). Yn hytrach na chynnal ymchwiliad, gofynnodd i’r Bwrdd Iechyd gwblhau’r canlynol i setlo cwyn Ms X:

Erbyn 30 Mehefin 2022
Ymddiheuro i Mrs X am yr oedi sylweddol cyn ymateb i’w chŵyn
b) Darparu i Mrs X ymateb ysgrifenedig i’w chwyn